Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Ionawr 2025
Mae Cyngor Torfaen wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion cyllideb ar gyfer 2025-2026.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan hanner nos ddydd Gwener 14 Chwefror, 2025. Mae'r holl wybodaeth am gynigion y gyllideb ac arolwg byr i'w gwblhau ar gael ar dweudeichdweud.torfaen.gov.uk.
Eleni, derbyniodd y cyngor gynnydd o 4.8% yn y setliad drafft gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid ychwanegol i dalu am ddyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol i staff.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Er gwaethaf pwysau ariannol parhaus a grëwyd gan y galw am wasanaethau a chwyddiant, mae'r cyngor mewn sefyllfa dda i gyflwyno cyllideb gytbwys a chyflawni blaenoriaethau ein cynllun sirol ar gyfer cymunedau'r flwyddyn nesaf.
"Mae ein cynigion yn argymell buddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion ac addysg, yn osgoi toriadau i wasanaethau lleol hanfodol, yn helpu i gyflawni'r blaenoriaethau yng Nghynllun Sirol y cyngor ac yn cefnogi un o'r codiadau treth gyngor isaf yng Nghymru gyda chefnogaeth i 10,000 o gartrefi drwy'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Nawr mae'r cyngor eisiau clywed eich barn."
Hyd nes y bydd setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gadarnhau, mae'r cynigion canlynol yn cael eu cyflwyno:
- Cynnydd o 6.9% neu £5.35 miliwn i ysgolion Torfaen,
- Buddsoddiad pellach o £750,000 i gefnogaeth hanfodol Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- £800,000 yn ychwanegol i ehangu Ysgol Arbennig Crownbridge
- £800,000 i fodloni pwysau yn y galw am Gludiant i’r Ysgol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Cynnydd o 5% i ddarparwyr Gofal Cymdeithasol i gydnabod effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol.
- £1m yn ychwanegol i wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
- £1m yn ychwanegol i drawsnewid Gwasanaethau Plant er mwyn talu costau gofal
- £385,000 yn ychwanegol o fodloni pwysau costau yn y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu
- Buddsoddiad o £227,000 mewn tîm addysg a gorfodaeth gwastraff i helpu ymgyrch ailgylchu codi’r gyfradd
- £250,000 i barhau â’r cynllun cyflogaeth a phrentisiaethau i’r rheiny sy’n gadael yr ysgol.
- £534,000 i gefnogi bron i 10,000 o gartref yn Nhorfaen trwy’r cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.
Cynigir £29 miliwn pellach ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y flwyddyn nesaf a fydd yn rhan o Strategaeth Cyllid Cyfalaf y cyngor, gan gynnwys ystyriaeth ar gyfer ysgolion, mannau cyhoeddus ac arwynebau ffyrdd a phalmentydd ynghyd â chyllid ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl sy'n helpu pobl i aros yn eu cartrefi. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut mae'r cyngor yn defnyddio cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu i wella ffyrdd lleol.
Ewch i dweudeichdweud.torfaen.gov.uk dim hwyrach na hanner nos dydd Gwener, 14 Chwefror, 2025.