Goroeswr yr holocost yn siarad â disgyblion

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 27 Ionawr 2025
Eva Clarke (1)

Mae disgyblion o ysgolion uwchradd yn Nhorfaen wedi cymryd rhan mewn gweminar fyw i glywed hanes uniongyrchol gan un a oroesodd yr Holocost.

Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Gwener cyn Diwrnod Cofio'r Holocost heddiw, sydd eleni yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau.

Bu disgyblion blwyddyn 9 i 11, a disgyblion chweched dosbarth o ysgolion yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili, yn gwrando ar brofiadau Eva Clarke, a anwyd yng ngwersyll-garchar Mauthausen, yn Awstria, a chawsant gyfle i holi cwestiynau.

Rhannodd Eva ei stori am erledigaeth y Natsïaid, rhoddodd flas ar gefndir hanesyddol yr Holocost, ei heffaith barhaol ar gymdeithas fodern, a'r gwersi y gallwn eu dysgu o hanes.

Dywedodd Sofia Kehoe-Ashman, myfyriwr CGM ym Mlwyddyn 9, Ysgol Abersychan, "Mae'r  erchylltra a ddioddefodd teulu Evan y tu hwnt i’r dychymyg. Gwnaeth i mi sylweddoli pa mor lwcus ydym ni.”

Ychwanegodd ei chyd-ddisgybl, Cian Gibbs, “Mae gwrando ar Eva wedi gwneud i mi deimlo yr hoffwn fynd i Auschwitz. Dwi eisiau gweld beth oedd rhaid i deulu Evan ei ddioddef, a'u cofio nhw.” 

Cynhaliwyd y digwyddiad gan dîm Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent, sydd wedi'i leoli yng Nghyngor Torfaen, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost.

Gwahoddwyd disgyblion ysgolion uwchradd hefyd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth celf a barddoniaeth yn seiliedig ar thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni – Er Mwyn Dyfodol Gwell.

Fred Edwards o flwyddyn 9 yn Ysgol Gorllewin Mynwy cafodd ei ddewis fel enillydd rhanbarth Torfaen, a derbyniodd daleb Amazon gwerth £50.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraethu ac Adnoddau Corfforaethol, "Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i addysgu ein pobl ifanc am yr Holocost ac effaith ddinistriol casineb ac anoddefgarwch.

"Trwy glywed cyfrifon uniongyrchol a chymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon, gallwn sicrhau nad yw gwersi'r gorffennol yn mynd yn angof, a gallwn weithio tuag at ddyfodol sydd wedi'i adeiladu ar ddealltwriaeth a pharch."

I nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, bydd y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl, yn cael ei goleuo'n borffor heno er cof am bawb a gafodd eu herlid.

I gael mwy o wybodaeth am fywyd a gwaith Eva Clarke, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost .

Gallwch hefyd wrando ar hanes uniongyrchol un o oroeswyr eraill yr Holocost, Harry Spiro, a’i ferch Tracy, yn rhan o bodlediad Lleisiau’r Cymoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/01/2025 Nôl i’r Brig