Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Ionawr 2025
Mae arolygwyr Estyn wedi canmol safonau uchel yn ysgol gynradd gymunedol Blenheim Road ac ysgol gynradd Coed Eva.
Mae'r ysgolion, yng Nghwmbrân, a ddaeth yn ffederasiwn yn 2016, yn rhannu pennaeth gweithredol a chorff llywodraethu.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon, dywedodd yr arolygwyr fod y dull arweinyddiaeth unedig wedi arwain at safonau uchel yn y ddwy ysgol, yn enwedig i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dywedodd yr adroddiad fod y cwricwlwm yn "eang, cytbwys a phwrpasol" a bod y disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu'n gymdeithasol diolch i gysylltiadau cryf â'r gymuned leol.
Aeth yr arolygwyr ymlaen hefyd i ganmol y berthynas rhwng y staff a’r disgyblion, gan ychwanegu bod " y ddarpariaeth ar gyfer lles disgyblion a theuluoedd yn y ddwy ysgol yn nodwedd ragorol".
Dywedodd Paul Keane, y Pennaeth Gweithredol: "Rydym wrth ein bodd bod canlyniadau'r arolygiadau yn rhoi sbardun i'n dwy ysgol yn ein cenhadaeth i barhau i newid ein cymuned a'n gwlad er gwell.
"Mae ein plant, ein teuluoedd, ein staff a'r rhan unigryw hon o Gymru yma yng Nghwmbrân yn haeddu'r gorau. Ein braint yw eu gwasanaethu, ac adlewyrchu'r balchder aruthrol yr ydym i gyd yn ei deimlo yn y gymuned hon ac yn ein dysgu."
Yn 2023, dyfarnwyd gwobr Calon y Gymuned gan y Foundation of Community Engagement i Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road ac Ysgol Gynradd Coed Efa. Mae Foundation of Community Engagement yn elusen sy’n cefnogi ysgolion i feithrin partneriaethau effeithiol gyda rhieni a gofalwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn longyfarch tîm arweinyddiaeth weithredol y ffederasiwn a'r ddau Bennaeth am eu dull cydweithredol, sy'n helpu disgyblion a theuluoedd i ffynnu."
Cynhaliwyd yr arolygiadau ym mis Tachwedd. Argymhellodd yr adroddiadau bod y ddwy ysgol yn gwella sgiliau ysgrifennu a rhifedd disgyblion.
Cynghorwyd Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road i fynd i'r afael ag anghysondebau o ran addysgu ac asesu i sicrhau bod disgyblion yn cael mwy o berchnogaeth o'u dysgu. Cynghorwyd Ysgol Gynradd Coed Eva i wella ansawdd a chysondeb yr adborth gan y disgyblion.
Darllen adroddiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road
Darllen adroddiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Coed Eva