Cau ffyrdd dros dro canol tref Pont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Ionawr 2025
Hanbury Road

Bydd rhan o Hanbury Road, yng nghanol tref Pont-y-pŵl, ar gau i'r ddau gyfeiriad am wyth wythnos o ddydd Llun Chwefror 10, gan gynnwys penwythnosau.

Bydd y ffordd ar gau dros dro rhwng cylchfan Clarence Corner a Glantorvaen Road er mwyn galluogi Dŵr Cymru i wneud gwelliannau i'r rhwydwaith carthffosiaeth.

Bydd gwyriad traffig ar waith ar hyd yr A4043 ac mae disgwyl oedi.

Bydd mynediad yn cael ei gadw ar gyfer trigolion, busnesau yn Hanbury Road, a cherbydau'r gwasanaethau brys. Bydd llwybrau cerdded eraill hefyd ar gael.

Bydd y Ganolfan Ddinesig ar agor fel arfer, yn ogystal â maes parcio aml-lawr Glantorvaen Road.

Fodd bynnag, gofynnir i bobl ystyried defnyddio.

meysydd parcio amgen i helpu i leihau tagfeydd yng nghanol y dref. Amserau agor meysydd parcio.

Bydd toiledau Hanbury Road a safleoedd bysiau neuadd y dref ar gau yn ystod y gwaith. Mae toiledau cyhoeddus amgen ar gael ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Parc Pont-y-pŵl a Chanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl.

I gael manylion am newidiadau i wasanaethau bws, ewch i wefan Stagecoach, lawrlwythwch ap Stagecoach neu dilynwch @StagecoachWales ar X i gael diweddariadau byw. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Phil Anslow.

Mae tîm cludiant ysgolion y Cyngor yn cysylltu ag ysgolion y disgwylir i'r ffyrdd gau effeithio arnynt. Am fwy o wybodaeth: https://www.torfaen.gov.uk/cy/RoadsTravelParking/RoadsAndPavements/Roadsandhighways-roadworks/HanburyRoadClosure.aspx

Fis diwethaf, cytunodd aelodau'r cabinet i ddefnyddio arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i dalu am y gwaith fel rhan o raglen ehangach o welliannau i ganol trefi.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae problem capasiti gyda'r rhwydwaith carthffosiaeth wedi dod i'r amlwg a allai effeithio ar drigolion a busnesau yn yr ardal, yn ogystal ag unrhyw brosiectau adfywio yn y dyfodol.

"Rydym yn deall y bydd cau dros dro yn cael effaith sylweddol ar bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhont-y-pŵl, ond rydym wedi ymrwymo i roi bywyd newydd i ganol y dref er budd trigolion a busnesau lleol, yn ogystal ag eraill yn y fwrdeistref."

Hoffech chi helpu i greu syniadau i adfywio canol tref Pont-y-pŵl?

Cynhelir gweithdai yn Neuadd Sant Iago, ym Mhont-y-pŵl, ddydd Mercher 29 Ionawr i sefydlu grŵp i helpu i wireddu'r uchelgeisiau  yng Nghynllun Creu Lle Pont-y-pŵl, sy'n amlinellu blaenoriaethau adfywio yn y dyfodol.

I gofrestru diddordeb: https://www.eventbrite.co.uk/e/pontypool-town-centre-community-ideas-event-tickets-1145606994359

Diwygiwyd Diwethaf: 27/01/2025 Nôl i’r Brig