Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
Heddiw, mae cynghorwyr Torfaen wedi cymeradwyo penodi Stephen Vickers yn Gyd-Brif Weithredwr parhaol cynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen a Blaenau Gwent.
Gofynnir i Gynghorwyr Blaenau Gwent wneud eu penderfyniad yn y cyngor llawn ddydd Iau 23ain Ionawr.
Mae'r adroddiadau diweddaraf a dderbyniwyd gan y ddau gyngor yn dilyn 'cyfnod darganfod' 7 mis o hyd pan gytunodd y ddau gyngor i rannu rôl y Prif Weithredwr, tra bod gwaith archwilio’n digwydd i ddeall y cyfleoedd a'r risgiau o weithio'n agosach.
Daeth yr adolygiad a gefnogir gan Bartneriaethau Lleol i ben yn dilyn ymgysylltiad â chynghorwyr, uwch swyddogion a staff, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur.
Roedd yr adroddiadau'n argymell penodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, sefydlu tîm arweinyddol ar y cyd, a gwaith pellach i edrych ar y cyfleoedd a'r manteision i wasanaethau. Tynnodd sylw hefyd at awydd cryf a brwdfrydig ymhlith cynghorwyr am weithio'n agosach a chydweithio.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Nid yw'r status quo yn opsiwn synhwyrol na deniadol os ydym am wella canlyniadau i drigolion a chynnal gwasanaethau lleol hanfodol.
"Mae ein penderfyniad yn cefnogi ffederasiwn o ddau gyngor o statws cyfartal. Rydym am alinio ein sefydliadau ble mae'n synhwyrol gwneud hynny, a sicrhau effeithlonrwydd sy'n dechrau ar y brig, gan gynnwys rhannu costau cyflog tîm arweinyddol ffederal. Bydd hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio adnoddau ar reng flaen darpariaeth gwasanaethau lleol yn ein cymunedau tra'n cynnal ein sofraniaeth ariannol a gwleidyddol a'n trefniadau llywodraethu.
"Mae hefyd yn agor y drws i rannu arfer gorau a sgiliau arbenigol a bydd yn gwella gwytnwch timau bach, yn helpu gyda recriwtio, ac yn lleihau costau rheoli a gweinyddu."
Os bydd cynghorwyr Blaenau Gwent hefyd yn cymeradwyo'r penodiad, bydd Partneriaethau Lleol, sy'n fenter ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn cymryd rhan i ddatblygu achos amlinellol strategol gan gynnwys model ariannol a meini prawf ar gyfer alinio a blaenoriaethu gwasanaethau.
Yr adroddiad i Gyngor Blaenau Gwent
Yr adroddiad i Gyngor Torfaen