Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
Oes gennych chi syniadau am sut y gallai canol tref Pont-y-pŵl gael ei drawsnewid?
Os felly, dewch i weithdy syniadau cymunedol ddydd Mercher 29 Ionawr yn Neuadd Sant Iago, Hanbury Road, Pont-y-pŵl.
Bydd dwy sesiwn ar y diwrnod - un am 9.30am ac un am 5.30pm - a darperir lluniaeth.
Cofrestrwch yma
Y nod yw sefydlu grŵp canol tref a all helpu i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun Creu Lleoedd Pont-y-pŵl, yn ogystal â syniadau eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed syniadau’r gymuned ar gyfer trawsnewid canol tref Pont-y-pŵl.
"Mae hwn yn gyfle unigryw i bawb leisio’u barn a chael effaith wirioneddol ar ddyfodol ein tref. Trwy ddod at ein gilydd a rhannu ein gweledigaethau, gallwn greu tref fywiog, ffyniannus sy'n adlewyrchu anghenion a dyheadau pawb sy'n byw ac yn gweithio yma.
"Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn y digwyddiad a chydweithio i ffurfio dyfodol Pont-y-pŵl."
Mae'r gweithdai'n rhad ac am ddim i'w mynychu, ond mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Cofrestrwch os gwelwch yn dda i sicrhau eich lle. Bydd te a choffi ar gael yn ystod y ddwy sesiwn.
Mae'r digwyddiadau hyn yn cael eu hariannu gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a'u cyflenwi mewn partneriaeth â Chyngor Torfaen a Cwmpass.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae canol tref Pont-y-pŵl wedi cael dros £400,000 mewn arian grant sydd wedi helpu i alluogi adnewyddu ac ailddefnyddio dau eiddo gwag.
Mae Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl wedi croesawu sawl stondinwr newydd, gan gynnwys O'Connell’s Bakery
Mae Pont-y-pŵl yn un o 11 prosiect yng Nghymru sydd wedi derbyn £7.6M gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i gyflenwi prosiect £9.3M Hwb Diwylliannol ac Ardal Chaffi Pont-y-pŵl.