Eithriadau ychwanegol i'r 20mya yn cael eu hystyried

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Ionawr 2025

Gallai nifer yr eithriadau yn Nhorfaen i'r cyfyngiad o 20mya mewn ardaloedd adeiledig gynyddu i 44 trwy gynigion diwygiedig.

Ym mis Medi 2023, newidiodd Llywodraeth Cymru'r cyfyngiad cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig. Roedd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod ffyrdd 30mya nawr yn 20mya, oni bai eu bod yn bodloni canllawiau Llywodraeth Cymru i’w hystyried yn eithriad.

Yn Nhorfaen, cafodd 36 eithriad eu cyflwyno - ymhlith y nifer fwyaf yng Nghymru.

Llynedd, gwahoddodd Llywodraeth Cymru trigolion i gysylltu â'u hawdurdodau lleol i awgrymu eithriadau ychwanegol a chyhoeddodd ganllawiau diwygiedig i gynghorau ar y meini prawf asesu.

Derbyniodd Cyngor Torfaen 702 o sylwadau am ffyrdd yn y fwrdeistref, gyda chymysgedd o safbwyntiau o blaid ac yn erbyn eithriadau.

Adolygodd y cyngor yr holl awgrymiadau yn unol â'r canllawiau diwygiedig, ac mae'n cynnig bod y ffyrdd canlynol yn cael eu hychwanegu at yr eithriadau i'r cyfyngiad 20mya:

  • Newport Road, Cwmbrân (rhan) 
  • Estate Road, Blaenavon (gan gynnwys Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas)  
  • Yr A4043 i’r gogledd o Bont-y-pŵl tuag at Abersychan (rhan) 
  • New Road, rhwng Tref Gruffydd a’r Dafarn Newydd (rhan) 
  • Usk Road, Y Dafarn Newydd (rhan) 
  • Riverside, Pont-y-pŵl 
  • Turnpike Road, Llanyrafon (rhan)
  • B4236 Caerleon Road (rhan) – darn 40mya

Fel rhan o'r asesiad, roedd disgwyl i gynghorau ystyried a fydd cynnydd mewn cyflymder yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd o gymharu â chofnodion gwrthdrawiadau anafiadau personol blaenorol.

Bydd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) nawr yn cael ei wneud ar gyfer pob ffordd, sy'n broses gyfreithiol y mae'n rhaid i gynghorau ei dilyn i newid unrhyw gyfyngiad cyflymder. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi’n lleol, ar wefan y cyngor ac yn y wasg leol.

Bydd pob GRhT yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau cyn cyflwyno unrhyw newidiadau. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriadau statudol, dylid cwblhau'r gwaith i weithredu'r newidiadau erbyn diwedd y gwanwyn.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Hoffwn ddiolch i drigolion am gyfrannu at yr ymgynghoriad. Rydym wedi defnyddio'r meini prawf i asesu pob eithriad a awgrymir. 

"Mae'r cyfyngiad cyflymder diofyn newydd o 20mya wedi cael effaith gadarnhaol ar lawer o'n cymunedau, gan leihau cyflymder traffig a helpu trigolion sy'n byw yn y strydoedd hynny a defnyddwyr eraill y ffordd i deimlo'n fwy diogel.

"Rydym yn deall nad yw'n briodol ym mhob ardal. Mae hynny’n cael ei adlewyrchu mewn llawer o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gyda llawer o drigolion yn croesawu cyflymder arafach ar eu strydoedd, ond mae rhai gyrwyr sy’n defnyddio'r ffyrdd hynny'n anghytuno. Dyna pam rydyn ni wedi ceisio cymryd agwedd bragmatig yn Nhorfaen, gydag un o'r niferoedd uchaf o eithriadau yng Nghymru."

Diwygiwyd Diwethaf: 17/01/2025 Nôl i’r Brig