Lansio prosiect arloesol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 15 Ionawr 2025

Mae mwy na £4 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i helpu i yrru ffordd arloesol o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn y Fwrdeistref.

Mae'r Cyngor a'i bartneriaid wedi llwyddo gyda chais i sefydlu Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd – y sefydliad cyntaf yng Nghymru, ochr yn ochr â Chyngor Rhondda Cynon Taf, i gael ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).

Yn rhan o Gydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd Torfaen, bydd arbenigwyr ar ymchwil a data yn gweithio ochr yn ochr â'r Cyngor a chymunedau i archwilio sut y gellir gwella canlyniadau iechyd a llesiant mewn ffordd gynaliadwy.

Dyma'r cam diweddaraf yng nghenhadaeth y Cyngor i drawsnewid anghydraddoldebau iechyd a llesiant yn Nhorfaen, gan weithio gyda'r gwasanaeth iechyd, cynghorau cymuned, cymdeithasau tai ac elusennau yn y meysydd sy'n cael yr effaith fwyaf ar ganlyniadau iechyd hirdymor pobl.

Dywedodd David Leech, Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Oedolion a Chymunedau: "Rydyn ni’n wynebu her sylweddol i wrthdroi'r anghydraddoldebau iechyd amlwg sy'n bodoli nawr yn ein cymunedau.

"Rydyn ni’n croesawu'r her hon i sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu at y mannau ble y gallant gael yr effaith fwyaf ar fywydau. Trwy wella ymchwil a chydweithio, gallwn fynd at yr achosion wrth wraidd yr anghydraddoldebau a dyfeisio ymyriadau sy’n gallu cael yr effaith fwyaf ar iechyd y cyhoedd."

"Credwn fod cymunedau mewn lle arbennig o dda i ddylanwadu ar y gefnogaeth sy'n diwallu anghenion llesiant pobl orau yn eu hardaloedd.

"Bydd ein dull arloesol yn golygu ein bod yn rhoi’r adnoddau iawn a'r cymorth iawn i feithrin gallu, i grwpiau a sefydliadau cymunedol, i gynyddu'r cymorth llesiant y gallant ei gynnig. Mae'r dull hwn yn dibynnu'n helaeth ar ymchwil fel ein bod ni’n deall pa adnoddau a chymorth sydd eu hangen a ble mae eu hangen."

Yn ddiweddar, ymunodd academyddion o Sefydliad Gwyddorau Meddygol India Gyfan, yn Rishikesh, ag aelodau'r Cabinet i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect.

Cyfarfu Dr Vartika Saxena, Dr Ajeet Bhadoria Singh a'r Athro Carolyn Wallace, o Brifysgol De Cymru, â dau Aelod Gweithredol, sef y Cynghorydd Jo Gauden a'r Cynghorydd Richard Clark, yn ogystal â Jason Lewis, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, a Gareth Cooke, Pennaeth Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd Torfaen.

Bydd y prosiect cydweithredol pum-mlynedd, dan arweiniad y Cyngor, yn dod â phartneriaid o Brifysgol De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, at ei gilydd.

Yn ôl Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd Gwent, nid yw menywod yn byw mor hir â  dynion yn Nhorfaen ac mae ganddynt y disgwyliad oes isaf o'u cymharu â gweddill Gwent.

Yn ogystal, mae gan Dorfaen nifer uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru o bobl â chofnod o gyflwr iechyd meddwl. Bydd y Cydweithrediad Ymchwil yn cynnal ymchwil cymhwysol i'r meysydd hyn i helpu i adnabod ymyriadau addas.

Bydd gwaith Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd Torfaen yn cael ei arwain gan Amcanion Llesiant Cynllun Sirol y Cyngor ac Egwyddorion Marmot a ddatblygwyd gan yr arbenigwr ar epidemioleg, yr Athro Syr Michael Marmot.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/01/2025 Nôl i’r Brig