Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025
Yfory, bydd cabinet Cyngor Torfaen yn adolygu’r rhagolwg ariannol yn ystod y flwyddyn ac yn amlinellu cynlluniau i gyrraedd sefyllfa gytbwys erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25.
Mae sefyllfa monitro mis 8 ar gyfer 2024/25 yn nodi diffyg o £1.3 miliwn yn ystod y flwyddyn, o gymharu â diffyg o £2.6 miliwn dau fis ynghynt.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt, "Er gwaethaf pwysau ariannol parhaus mewn meysydd fel Gwasanaethau Plant, mae arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a'r gwaith rydym wedi'i wneud yn fewnol wedi gwella ein sefyllfa ariannol. Mae hyn yn ein sefydlu'n dda i gydbwyso ein cyllideb a chyflawni blaenoriaethau allweddol y flwyddyn nesaf."
Bydd y Cabinet hefyd yn adolygu'r cynigion diweddaraf ar gyfer cyllideb 2025/26.
Amcangyfrifir bod cyllideb net 2025/26 y cyngor yn £248.5m, gyda disgwyl £192.2m gan Lywodraeth Cymru, tra'n disgwyl y setliad terfynol.
Dywedodd y Cyng. Hunt fod y cyngor wedi derbyn cynnydd o 4.8% yn setliad drafft Llywodraeth Cymru ochr yn ochr ag arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am y dyfarniad cyflog cenedlaethol i staff.
Mae'r adroddiad sy'n amlinellu cynigion cyllideb Torfaen yn cynnwys:
- Cynnydd o 6.9% neu £5.35 miliwn i ysgolion Torfaen i helpu i ariannu eu pwysau, gyda buddsoddiad pellach o £750,000 ar gyfer cyllideb ysgolion a chymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ysgolion.
- £800,000 pellach i Ysgol Arbennig Crownbridge; gan wneud cyfanswm o £1.26m o fuddsoddiad.
- £800,000 i fodloni'r pwysau galw ar Drafnidiaeth Ysgol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Cynnydd o 5% i ddarparwyr Gofal Cymdeithasol i gydnabod effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol.
- £1m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
- £1m yn ychwanegol i drawsnewid Gwasanaethau Plant a thalu costau gofal yn 2025/26 a 26/27, gan arwain at ostyngiad net erbyn 2027/28.
- £385,000 yn ychwanegol i leddfu pwysau costau mewn gwasanaethau sbwriel ac ailgylchu a buddsoddiad o £227,000 mewn tîm addysg a gorfodi gwastraff.
- £3m yn ychwanegol i dalu am gyflogau staff a chwyddiant pensiynau.
- £250,000 i barhau â'r cynllun cyflogaeth a phrentisiaethau i’r rheiny sy'n gadael yr ysgol.
- £534,000 yn ychwanegol i helpu i gefnogi bron i 10,000 o gartrefi Torfaen drwy'r cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hunt: "Mae'r cynigion yma’n blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion ac addysg, yn diogelu gwasanaethau lleol, ac yn cadw biliau treth y cyngor yn isel.
"Dyma'r bedwaredd flwyddyn i ni gynnig un o'r codiadau treth gyngor isaf yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod llawer o aelwydydd yn cael trafferth gyda biliau, felly rydym wedi cynnal cyllid ar gyfer ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor sy'n cefnogi bron i 10,000 o gartrefi ar incwm isel.
"Yn ogystal, cynigir tua £29 miliwn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y flwyddyn nesaf, gan gynnwys arian ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl i helpu pobl i aros yn eu cartrefi."
Ar ôl cyfarfod y Cabinet, bydd yr holl gynghorwyr yn craffu ar y gyllideb ar 28ain Ionawr a bydd ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cynigion yn dechrau ar 29ain Ionawr.
Agenda ar gyfer Cabinet ar Dydd Mawrth - 14eg Ionawr, 2025