Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Ionawr 2025
Mae bron i 400 o blant wedi mwynhau 11 sesiwn chwarae newydd dros wyliau'r Nadolig.
Cynhaliwyd Diwrnodau Chwarae'r Flwyddyn Newydd am ddim ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos hon ac roeddent yn cynnwys sesiynau gweithgaredd a seibiant.
Dyma'r tro cyntaf i Chwarae Torfaen gynnal darpariaethau chwarae yn ystod gwyliau'r Nadolig, diolch i tua 100 o staff a gwirfoddolwyr.
Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Chwarae Torfaen: "Roeddem am gynnig y cyfle i blant gyfarfod a chwarae gyda ffrindiau dros wyliau'r Nadolig.
"Ein nod oedd sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael pan oedd eu hangen fwyaf, gan ddarparu amgylchedd diogel, hwyliog a chynhwysol i'r plant ei fwynhau ac elwa ohono.
"Rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan rieni a gofalwyr, a hoffwn ddiolch i'n staff am wneud hyn yn bosibl."
Roedd tua 100 o staff a gwirfoddolwyr y gwasanaeth chwarae wrth law i gynnal y sesiynau ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos hon.
Cynhaliwyd Diwrnodau Chwarae'r Flwyddyn Newydd yn Ysgol Gynradd Garnteg, Pont-y-pŵl; Stadiwm Cwmbrân; Neuadd Brynhyfryd, Pontnewydd; Eglwys Victory, Cwmbrân; Neuadd Gymunedol Dôl Werdd a Sain Derfel a Chanolfan Gymunedol Bryn Eithin, yng Nghwmbrân.
Mae Chwarae Torfaen yn cynnal amrywiaeth eang o sesiynau yn ystod y tymor a gwyliau ysgol, yn ogystal â sesiynau chwarae teuluol i blant dan bump oed a sesiynau seibiant i blant ag anghenion ychwanegol. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.torfaen.gov.uk/cy/EducationLearning/ChildrenandYoungPeople/PlayService/PlayService.aspx
Mae recriwtio gwirfoddolwyr cynllun chwarae'r haf ar y gweill. Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac â diddordeb mewn dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a gwella'ch CV, cysylltwch â torfaenplay@torfaen.gov.uk.
Mae darparu cyfleoedd chwarae diogel i blant yn un o'r ffyrdd y mae'r cyngor yn helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i ffynnu. Dysgwch fwy am amcanion llesiant y cyngor