Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Chwefror 2025
Eleni, mae Ymgyrch Gwanwyn Glân sy’n rhan o Cadwch Dorfaen yn Daclus yn argoeli i fod yn un o’r mwyaf eto!
Yn ogystal â’r 10 digwyddiad casglu sbwriel sydd wedi eu trefnu, bydd 12 ysgol yn cynnal sesiynau casglu sbwriel yn rhan o fenter Parthau Teithio Llesol Di-Sbwriel, a bydd busnesau sydd wedi cofrestru’n Barthau Di-sbwriel yn cynnal eu sesiynau codi sbwriel eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn gobeithio mai ymgyrch Gwanwyn Glân 2025, sy’n rhan Cadwch Dorfaen yn Daclus fydd yr un mwyaf eto a gallwch chithau gymryd rhan.
“Gallwch wirfoddoli yn un o'r digwyddiadau casglu sbwriel yr ydym wedi eu trefnu, ymuno â'ch clwb casglu sbwriel lleol neu gynnal eich digwyddiad casglu sbwriel eich hun trwy fenthyg offer am ddim o'n hybiau casglu sbwriel.
“Mae sbwriel yn difetha ein hamgylchedd lleol ac mae’n berygl i fywyd gwyllt. Ein gobaith yw, drwy weithio gyda’n gilydd gallwn wella’n cymunedau a lleihau’r broblem y mae sbwriel yn ei hachosi.”
Mae digwyddiadau Gwanwyn Glân 2025, Cadwch Dorfaen yn Daclus, yn dechrau ddydd Llun 10 Mawrth tan ddydd Gwener 14 Mawrth.
Mae pump o'r lleoliadau yn hygyrch i bobl ag anawsterau symud.
Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiad, dewch draw i gofrestru ar y dydd. Dewch wedi gwisgo’n addas ar gyfer y tywydd a chofiwch eich menig ac esgidiau cryfion. Bydd yr offer casglu sbwriel yma ar eich cyfer.
I gael manylion grwpiau casglu sbwriel gwirfoddol, ewch i grŵp Facebook Gwirfoddolwyr Torfaen Glanach a Gwyrddach.
Neu fel arall, gallwch drefnu eich digwyddiad eich hun a chael benthyg offer casglu sbwriel am ddim gan eich hybiau casglu sbwriel agosaf.
Digwyddiadau Gwanwyn Glân 2025, Cadwch Dorfaen yn Daclus
Dyddiad: Dydd Llun 10 March
Amser: 10am – 11:30am
Lleoliad: Canol tref Blaenafon
Man cyfarfod: Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
Dyddiad: Dydd Llun 10 March
Amser: 1pm – 2:30pm
Lleoliad: Llynnoedd y Garn (hygyrch)
Man cyfarfod: Maes Parcio Garn Yr Erw
Dyddiad: Dydd Mawrth 11 March
Amser: 10am – 11:30am
Lleoliad: Parc Pont-y-pŵl (hygyrch)
Man cyfarfod: Tu all i’r Ganolfan Byw Egnïol
Dyddiad: Dydd Mawrth 11 March
Amser: 1pm – 2:30pm
Lleoliad: Canol tref Pont-y-pŵl
Man cyfarfod: Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl (Mynedfa Commercial Street)
Dyddiad: Dydd Mercher 12 March
Amser: 10am – 11:30pm
Lleoliad: Caeau Woodland Road (hygyrch)
Man cyfarfod: Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road
Dyddiad: Dydd Mercher 12 March
Amser: 1pm-2:30pm
Lleoliad: Coedwig Springvale
Man cyfarfod: Tu allan i Afon Plumbing and Bathrooms
Dyddiad: Dydd Iau 13 March
Amser: 10am – 11:30pm
Lleoliad: Northfields (hygyrch)
Man cyfarfod: Tafarn yr Olive Tree
Dyddiad: Dydd Iau 13 March
Amser: 1pm-2:30pm
Lleoliad: Pyllau Llantarnam
Man cyfarfod: Lake View
Dyddiad: Dydd Gwener 14 March
Amser: 10am – 11:30pm
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Leol Tirpentwys
Man cyfarfod: Maes parcio’r warchodfa
Dyddiad: Dydd Gwener 14 March
Amser: 1pm-2:30pm
Lleoliad: Llyn Cychod Cwmbrân (hygyrch)
Man cyfarfod: Caffi ger y llyn