Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Awst 2025
O'r mis hwn ymlaen, bydd tîm newydd o Swyddogion Addysg a Gorfodaeth Ailgylchu wrth law i helpu cartrefi sy'n cael trafferth gyda gormod o wastraff yn y biniau clawr porffor.
Byddan nhw’n rhoi cyngor a gwybodaeth ailgylchu i drigolion sy'n gorlenwi eu biniau neu'n rhoi bagiau sbwriel ychwanegol.
Bydd y tîm yn siarad â’r trigolion ac yn rhoi gwybodaeth fel rhan o broses pedwar cam 'Cystadlu â’r Cymdogion' o addysg a gorfodaeth.
Os bydd y problemau’n parhau, byddan nhw’n cael llythyr, yna ail lythyr ac, yn y pen draw, Hysbysiad o Gosb Benodedig.
Y nod yw cefnogi trigolion i gynyddu'r swm maen nhw'n ei ailgylchu i helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o drigolion am wneud y peth iawn o ran ailgylchu, ond mae rhai pobl yn cael trafferth ac efallai bod rhesymau gwirioneddol pam fod gan rai pobl sbwriel ychwanegol mewn bagiau du.
"Trwy siarad yn uniongyrchol â thrigolion, bydd ein swyddogion yn gallu cynnig cymorth ac arweiniad i helpu trigolion i leihau eu sbwriel ac ailgylchu mwy.
“Serch hynny, bydd trigolion a fydd yn parhau i gyflwyno gormod o wastraff, hyd yn oed ar ôl cyngor a llythyrau, yn cael dirwy.”
Gallwch ddarllen mwy am bolisi Addysg ac Ymgysylltiad y Cyngor ar ein gwefan.
Dysgwch beth all gael ei ailgylchu ar eich stepen drws
Angen blychau neu fagiau ychwanegol? Dewch o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf
Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor saith diwrnod yr wythnos. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahanu deunydd ailgylchu a sbwriel cyn mynd i mewn i’r safle a bod gennych brawf o’ch cyfeiriad.