Gwirfoddoli yn talu ar ei ganfed i athro lleol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Ebrill 2025
Play Service MAX

Pan ddechreuodd Max Griffiths wirfoddoli gyda Chwarae Torfaen yn 14 oed, doedd ganddo ddim syniad y byddai'n meithrin cariad gydol oes at weithio gyda phlant.

Dechreuodd Max, o Gwmbrân, wirfoddoli fel cynorthwyydd chwarae cyn dod yn wirfoddolwr chwarae yn 16 oed.

Yn 18 oed, ymunodd â'r tîm fel gweithiwr chwarae cyflogedig, cymwys, yn arwain gweithgareddau cynhwysol fel chwaraeon, gemau grŵp, a gweithdai addysgol ar draws amrywiol raglenni yn ystod y tymor ac yn y gwyliau.

Ar ôl astudio drama yn y brifysgol, fe wnaeth Max, a arferai fynychu cynllun Chwarae Torfaen yn Llanyrafon pan oedd yn blentyn, benderfynu bod yn athro – gan barhau i weithio i'r gwasanaeth chwarae tra ei fod yn astudio am ei gymhwyster addysgu.

Mae Max, 25, bellach yn athro yn Ysgol Gynradd Marshfield yng Nghasnewydd, gan ddilyn, meddai ef,  gyrfa  a ysbrydolwyd gan ei brofiadau gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen.   

Dywedodd: “Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio pwy ydw i heddiw. Dyma ble gwnes i ddarganfod fy angerdd am weithio gyda phlant. Cefais gyfleoedd lu i ddysgu, tyfu a rhoi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned.

"Rwy'n falch o fod yn rhan o wasanaeth sy’n creu cymaint o effaith; sy'n cefnogi nid yn unig datblygiad plant ond hefyd y rhai sy'n neilltuo eu hamser iddo.

"Os oes unrhyw un yn ystyried gadael i’r cyfle i wirfoddoli gyda Chwarae Torfaen fynd heibio, buaswn yn eu hannog i ailfeddwl. Mae wedi bod yn hynod bwysig ar gyfer fy nhwf a fy natblygiad personol."

Mae Max yn dal i roi help llaw yn y gwasanaeth chwarae, yn ystod digwyddiadau fel y digwyddiad mawr a Pharti yn y Parc, Pont-y-pŵl. Mae e hefyd yn cyflwyno seremoni wobrwyo flynyddol y Gwasanaeth Chwarae. 

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i ymuno â'r gwasanaeth yr haf hwn.

I wirfoddoli, rhaid i unigolion fod yn 16 oed, neu'n 14 oed i gofrestru fel cynorthwyydd chwarae, a rhaid iddynt fynychu wythnos hyfforddi orfodol sy'n dechrau ar 21 Gorffennaf.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sadwrn 31 Mai 2025. Cliciwch yma i wneud cais.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg,: "Mae Max yn llysgennad go iawn i'r gwasanaeth chwarae. Mae ei gyfraniad yn ein cymunedau nid yn unig wedi cyfoethogi ei fywyd ei hun ond hefyd wedi creu effaith gadarnhaol ar gymaint o blant.

“Mae gwirfoddoli gyda Chwarae Torfaen yn cynnig sgiliau a phrofiadau gwerthfawr i unigolion, a’u paratoi’n dda ar gyfer eu holl ymdrechion yn y dyfodol.

"Os ydych chi'n ystyried gwirfoddoli gyda Chwarae Torfaen yr haf hwn, rwy'n eich annog yn fawr iawn i gymryd y naid a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned."

Diwygiwyd Diwethaf: 11/04/2025 Nôl i’r Brig