Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Ebrill 2025
Mae tîm Arlwyo Ysgolion y Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr uchel ei bri am ei waith ar leihau ôl troed carbon y gwasanaeth.
Mae tua thraean o'r holl fwyd a gynhyrchir i'w fwyta gan bobl yn cyfrannu at tua wyth y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r tîm wedi bod yn defnyddio Map Trywydd Cynaliadwyedd rhyngweithiol i nodi eu cynlluniau i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, ac maen nhw’n diweddaru'r cynnydd yn rheolaidd er mwyn i ysgolion a disgyblion ei dracio.
Un fenter oedd y gystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff i ysgolion cynradd i annog disgyblion i fonitro gwastraff bwyd amser cinio a’i leihau. Rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth.
Mae'r gwaith y mae'r gwasanaeth wedi'i wneud i ddatblygu'r Map bellach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol gan Public Sector Catering, y prif gorff proffesiynol sy'n cynrychioli'r sector bwyd ysgolion.
Mae'r enwebiad ar gyfer y wobr yn cydnabod y cwmni neu'r sefydliad sydd wedi integreiddio pryderon cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol orau i’w busnes. Roedd materion allweddol yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, safonau gwaith, trin gwastraff bwyd a phlastig, cysylltiadau â gweithwyr a’r gymuned, a chael hyd i fwyd o ffynonellau cynaliadwy a moesegol.
Bydd y rownd derfynol ddydd Iau 24 Ebrill yn yr Hilton London Metropole.
Meddai’r Cynghorydd Susan Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd:
"Mae’r Tîm Arlwyo Ysgolion yn gosod safon uchel gyda'i ymrwymiad i leihau gwastraff bwyd a lleihau allyriadau carbon.
Mae ei ymroddiad yn nodedig iawn, ac rwy'n dymuno pob lwc iddo - mae'n wirioneddol haeddu'r gydnabyddiaeth hon.
Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at amcanion llesiant y Cyngor i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Cewch ragor o wybodaeth am Gynllun Sirol y Cyngor yma.
Ddwy flynedd yn ôl lansiodd y Cyngor wasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n defnyddio Gwasanaeth Arlwyo Torfaen. Dyma un o'r ffyrdd y mae'r Cyngor yn anelu at #Godi’rGyfradd a chynyddu cyfraddau ailgylchu yn unol â tharged Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% erbyn 2025.
Rhagor o wybodaeth am arlwyo ysgolion cynradd.