Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Ebrill 2025
Mae wyth ysgol wedi casglu 138 bag o eitemau ailgylchu a sbwriel, yn rhan o Wanwyn Glân Torfaen.
Eleni, cafodd ysgolion eu hannog i gasglu sbwriel oddi ar dir eu hysgol a'r cyffiniau i ennill gwobr gan Morrisons Cwmbrân.
Ysgol Gynradd Nant Celyn ac Ysgol Gymraeg Cwmbrân lwyddodd i ddenu’r nifer uchaf o ddisgyblion i gymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel, a chawsant gydnabyddiaeth arbennig a hamper yn llawn danteithion gan Morrisons Cwmbrân.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'n hollol galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd camau i gadw eu cymunedau'n lân.
“Mae'r fath sesiynau casglu sbwriel nid yn unig yn gwella ein hamgylchedd ond maent hefyd yn ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb a balchder yn ein disgyblion.
“Mae llwyddiant y sesiynau casglu sbwriel yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein hysgolion a'n disgyblion.
“Rydym yn hynod falch o'u hymdrechion, ac yn ddiolchgar i Morrisons am eu cefnogaeth hael."
Os hoffech chi fynd ati i gasglu sbwriel, beth am ymweld ag un o hybiau casglu sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus i gael benthyg offer am ddim yn cynnwys teclynnau codi sbwriel, cylchoedd, bagiau a gwasgodau llachar.