Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Ebrill 2025
Mae gofalwr ysgol gynradd yn rhoi ei mop i gadw ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth yn yr un ysgol.
Ymunodd Siân Donoghue, 63, ag Ysgol Gynradd George Street fel glanhawr cynorthwyol yn 1982 cyn dod yn wraig ginio ac yna'n ofalwr yr ysgol ym 1997.
Mae hi hefyd wedi ymgymryd â nifer o dasgau eraill, gan gynnwys trefnu arddangosfeydd ystafell ddosbarth a choridorau, gosod ystafelloedd dosbarth, gweithredu fel warden traffig ar ddechrau a diwedd pob diwrnod ysgol a chynnal clwb gwau ar ôl ysgol.
Heddiw, dathlodd disgyblion a staff ei gwaith gyda gwasanaeth arbennig i nodi ei hymddeoliad.
Dywedodd Sian: "Rydw i wir wedi mwynhau'r profiad, yn enwedig yn ymwneud â'r plant a'u teuluoedd. Mae yna eiliadau cofiadwy di-ri wedi bod, ond mae dau yn arbennig yn amlwg: y parch rydw i bob amser wedi'i dderbyn gan y penaethiaid a'r staff rydw i wedi gweithio gyda nhw, a'r geiriau caredig rydw i wedi'u clywed am lendid a chyflwr yr ysgol.
"Mae'r ganmoliaeth yma wedi golygu llawer i mi. Byddaf yn gweld eisiau pob agwedd ar fywyd ysgol. Rwyf bob amser wedi ystyried yr ysgol i fod yn "fy ysgol i", a bydd gadael hynny'n anodd. Byddaf yn gweld eisiau egni'r diwrnod ysgol, y plant, a'r staff. Serch hynny, mae'n bryd i mi ymlacio, ac rwy'n edrych ymlaen at deithio ac ymweld â fy mab yn Seland Newydd."
Ychwanegodd y pennaeth - a merch Siân - Keri Manley: "Yn ystod ei chyfnod yn George Street, mae Siân wedi croesawu llawer o deuluoedd a staff gyda chynhesrwydd ac ymroddiad. Mae hi’n ffynhonnell gyson o gefnogaeth, ac mae hi wedi bod yno i bawb sydd wedi camu trwy'r drysau, gan gynnig ei help a'i harweiniad.
"Mae ei chyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy. Bydd pawb yn gweld ei heisiau’n fawr ac rydym yn dymuno ymddeoliad hapus a hamddenol iddi, yn llawn o’r llawenydd y mae hi'n wirioneddol ei haeddu."
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae llwyddiant ein hysgolion yn dibynnu ar bobl fel Siân sy'n mynd yr ail filltir i sicrhau bod ein hadeiladau'n lleoedd glân, diogel a phleserus i ddisgyblion, staff a'n cymunedau. Rwy'n dymuno ymddeoliad hapus a haeddiannol iawn i Siân."
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i Gyngor Torfaen? Gallwch ddod o hyd i fanylion swyddi gwag ar ydudalen swyddi.
Cyngor yn y rhestr cyflogwyr gorau (
https://www.torfaen.gov.uk/cy/News/2025/March/19-Council-in-top-employers-list.aspx )