Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 2 Ebrill 2025
Mae cynlluniau ar gyfer Hwb Ddiwylliannol ac Ardal Caffi newydd ym Mhont-y-pŵl wedi cymryd cam ymlaen.
Mae aelodau'r cabinet wedi cymeradwyo adroddiad yn argymell dyfarnu'r contract i alluogi gwaith i ddechrau trawsnewid toiledau Hanbury Road yn gaffi/bwyty sy'n edrych dros y parc a gwelliannau i Faes Parcio Glantorfaen Road.
Mae'r gwaith yn rhan o'r prosiect ehangach gwerth £9.3m sydd hefyd yn cynnwys ailddatblygiad preifat Eglwys Sant Iago yn fwyty a chanolfan ddiwylliannol.
Ym mis Awst 2022, cyhoeddwyd bod y prosiect wedi llwyddo i dderbyn £7.6m o gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU - un o ddim ond 11 prosiect yng Nghymru i wneud hynny.
Fis diwethaf, cymeradwyodd Llywodraeth y DU estyniad i raglen Ffyniant Bro Cyngor Torfaen tan fis Mawrth 2028.
Wrth siarad yng nghyfarfod y cabinet, dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Bydd y gyfres o brosiectau yn creu canolfan ddiwylliannol ar y ffordd i mewn i dref Pont-y-pŵl, gyda'r nod o greu cyfleoedd am swyddi lleol, tyfu'r economi leol a gweithredu fel sbardun ar gyfer buddsoddiad pellach yng nghanol y dref.
"Hoffwn ddiolch i Nick Thomas-Symonds AS am ei gefnogaeth wrth sicrhau bod ein prosiect yn cael ei gynnwys yn y cynllun i'w ystyried ar frys gan Lywodraeth y DU. Rhoddodd cymeradwyo estyniad y rhaglen gyfle i ni heddiw ystyried dyfarnu'r cytundeb cyn i'r tendr presennol ddod i ben sy'n osgoi proses hir arall o ail-dendro."
Gallai gwaith adeiladu ddechrau ar y caffi a'r maes parcio yn nes ymlaen eleni, unwaith y bydd amcangyfrifon cost y cam dylunio terfynol wedi'u cytuno gyda'r contractwr.
Bydd y gwaith yn cynnwys caffi/bwyty gydag estyniad gwydr yn edrych dros y parc a gwelliannau i'r maes parcio i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnig parcio diogel.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys dau doiled cyhoeddus hygyrch newydd ar Hanbury Road, mannau parcio newydd i'r anabl a gwefru CT a thoiledau hygyrch yn y maes parcio.
Mae cynlluniau i drawsnewid Eglwys Sant Iago sy’n rhestredig ar Radd II yn ganolfan ddiwylliannol yn parhau heb eu newid, ac mae gwaith eisoes yn digwydd i wella mesurau diogelwch ar safle'r eglwys gynt.
Dysgwch fwy am yr hyn fydd gan Canolfan Ddiwylliannol Pont-y-pŵl i’w gynnig