Cymeradwyo'r cynllun ailgylchu diweddaraf

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 2 Ebrill 2025
Recycling boxes

Mae aelodau'r cabinet wedi cymeradwyo cynllun i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn unol â tharged Llywodraeth Cymru o 70 y cant. 

Yn ôl adroddiad i'r cabinet ddydd Mawrth, cynyddodd cyfraddau ailgylchu yn y fwrdeistref o 59 y cant yn 2022/2023 i 64 y cant yn 2023/2024 ond nid ydynt wedi cyrraedd y targed o 70 y cant erbyn 2025.

Mae'r Strategaeth Ailgylchu a Gwastraff 2025-2030 yn amlinellu sut mae'r cyngor yn bwriadu cyrraedd 70 y cant trwy wella ac ehangu gwasanaethau ailgylchu a lleihau gwastraff, a rhaglen addysg a gorfodaeth.

Bydd yn cefnogi'r Map Ffordd Rhaglen Gwella Strategol a gymeradwywyd ym mis Ionawr 2024 ac yn adeiladu ar welliannau i wasanaethau, fel casgliadau cardfwrdd yn wythnosol, cyflwyno casgliadau bagiau coch ac ymgyrch Gwybodaeth Gyhoeddus Codi'r Gyfradd.

Mae hefyd yn cefnogi strategaeth Mwy Nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi gylchol gynaliadwy yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae ailgylchu’n rhan allweddol o ymateb y cyngor hwn i'r argyfwng hinsawdd a natur.

"Ond cyn i bethau hyd yn oed fynd i mewn i'r llif gwastraff, mae angen i ni ystyried sut y gallwn ailddefnyddio pethau gartref neu mewn busnes, a chyn hynny eto mae angen i ni ystyried sut mai lleihau lefelau nwyddau a deunyddiau rydyn ni'n eu defnyddio.

"Defnyddio llai, dod o hyd i fwy o ddefnyddiau ar gyfer pethau cyn i ni eu taflu, yna ailgylchu ac yna trin eitemau fel gwastraff fel dewis olaf."

Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar chwe maes blaenoriaeth, gan gynnwys gwella gwasanaethau ailgylchu, ehangu'r gwasanaethau ailgylchu gwastraff cartref a masnachol, a pholisi addysg a gorfodaeth newydd a gymeradwywyd gan gynghorwyr ym mis Rhagfyr.

Mae dadansoddiad wedi dangos y gellid ailgylchu 62 y cant o'r sbwriel a roddwyd yn y biniau clawr porffor yn Nhorfaen. Roedd y mwyafrif yn wastraff bwyd sy'n cael ei gasglu'n wythnosol fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd.

Yn ôl yr adroddiad, roedd newidiadau diweddar i'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle wedi cynyddu ailgylchu gwastraff masnachol yn Nhorfaen.

Wrth siarad yng nghyfarfod y cabinet, diolchodd yr Arweinydd y Cyng. Anthony Hunt i drigolion a swyddogion ac aelodau'r criwiau am eu gwaith caled.

I gael gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ailddefnyddio a'i ailgylchu yn Nhorfaen: https://www.torfaen.gov.uk/cy/RubbishAndRecycling/Recycling-AtoZGuide/A-to-Z-guide-to-Recycling.aspx

Dysgwch beth arall mae'r cyngor yn ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur

Diwygiwyd Diwethaf: 02/04/2025 Nôl i’r Brig