Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025
Bydd y fenter gymdeithasol arobryn Hamdden Halo yn darparu gwasanaethau hamdden yn Nhorfaen o heddiw ymlaen.
Mae'n nodi dechrau partneriaeth newydd 10 mlynedd gyda Halo yn dilyn cytundeb blaenorol gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.
Bydd yr elusen yn rheoli cyfleusterau hamdden yn Stadiwm Cwmbrân, Canolfannau Byw'n Egnïol ym Mhont-y-pŵl a Bowden, Canolfan Hamdden Fairwater a Snowsport Torfaen.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Fel sefydliad nid er elw, rydym yn disgwyl i Halo roi pobl cyn elw a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a hirdymor i iechyd ein trigolion trwy annog gweithgarwch corfforol a ffyrdd iachach o fyw.
"Bydd y bartneriaeth hon yn cyfrannu at ein dyheadau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chreu cymunedau iachach, hapusach."
Ychwanegodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae gwasanaethau chwaraeon a hamdden yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni amcanion ein Cynllun Sirol a'r Strategaeth Llesiant Cymunedol ehangach.
"Fel elusen gofrestredig a menter gymdeithasol, mae Halo yn rhoi elw yn ôl i mewn i gyfleusterau a gwasanaethau fel y gall mwy o bobl fod yn fwy gweithgar yn fwy aml."
Dywedodd Scott Rolfe, Prif Weithredwr Halo: "Rydym yn falch iawn o gael ein dewis fel y gweithredwr ar gyfer y cyfleusterau hamdden hyn. Mae ein model busnes menter gymdeithasol a'n statws elusen gofrestredig yn caniatáu inni fasnachu at ddibenion cymdeithasol, rhywbeth y mae'r cyngor yn ei gydnabod fel arwydd o ansawdd a chryfder.
"Byddwn yn gweithio gyda'r timau yn y safleoedd a'r cyngor i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl leol i gymryd rhan mewn rhyw fath o ymarfer corff, cynyddu'r amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael iddynt, a buddsoddi yn y cyfleusterau hamdden.
"Rydym yn hyderus y gallwn gyda'n gilydd drawsnewid gwasanaethau a chyfleusterau er budd trigolion lleol a chael mwy o bobl yn fwy weithgar yn fwy aml."
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Halo wedi rheoli gwasanaethau hamdden ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Caerloyw, Swydd Henffordd, Swydd Amwythig, Stratford a Wiltshire.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Halo ar gyfer Cwestiynau Cyffredin.