Ymgyrch i daclo baw ci

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025
Dog poo peaceful protest

Mae protest heddychlon wedi cael ei chynnal i godi mater baw cŵn mewn parc lleol.

Cymerodd tua 25 o bobl, gan gynnwys perchnogion cŵn, ran ym Mhrotest Gentle Poo ym Mharc Pontnewydd, yng Nghwmbrân, ddydd Sadwrn, a drefnwyd gan grŵp Cyfeillion Parc Pontnewydd.

Dywedodd Leanne Morgan, cadeirydd Cyfeillion Parc Pontnewydd: "Fe wnaethon ni drefnu'r brotest i godi ymwybyddiaeth o'r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn y baw cŵn nad yw'n cael ei godi yn ein parc.

"Rydw i wedi gorfod dod allan gyda bwcedi a diheintydd i'w glirio oddi ar y llwybr ac rydw i wedi codi cymaint â 14 bag o faw cŵn.  Rydyn ni wedi cael adroddiadau o blant yn syrthio mewn baw ci.

"Ymunodd llawer o berchnogion cŵn cyfrifol sy'n rhan o'n cymuned yn y parc gyda ni, ynghyd â rhai plant a theuluoedd er mwyn dweud dim mwy o faw yn ein parc!"

Daw'r brotest wrth i'r cyngor lansio ymgyrch bwrdeistref gyfan i fynd i'r afael â'r mater o faw cŵn mewn mannau cyhoeddus y mis hwn.

Bydd yr ymgyrch 'Codwch e' yn darparu pecynnau i glybiau chwaraeon, ysgolion a grwpiau gwirfoddol i atal perchnogion anghyfrifol rhag gadael baw cŵn ar lawr yn eu hardaloedd lleol.

Gall clybiau a grwpiau ddefnyddio stensil i chwistrellu a thynnu sylw at y llanast a byddant yn dosbarthu bagiau baw i berchnogion cŵn. Gofynnir iddynt hefyd dynnu sylw at a chofnodi achosion o faw cŵn, cofnod a fydd yn cael ei ddefnyddio gan dîm gorfodaeth sifil y cyngor i gynyddu addysg wedi'i thargedu a gorfodaeth.

Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'n drosedd gadael i'ch ci faeddu mewn man cyhoeddus a pheidio â'i godi ac mae'n cario'r risg o ddirwy o £100 yn y fan a'r lle. Mae hefyd yn berygl iechyd a gall arwain at heintiau parasitig fel Toxocariasis sy'n achosi dallineb.

"Serch hynny, mae'n eithriadol o anodd gorfodi yn erbyn perchnogion sy'n gadael baw ci oherwydd mae angen i chi fod yn bresennol ar yr union adeg y mae'r ci yn baeddu ac mae'n aml yn cael ei adael yn ystod adeg dywyll neu pan nad oes neb arall o gwmpas.

"Rydyn ni eisiau gweithio gyda phobl a grwpiau sy'n ystyriol o’u cymuned ac sy’n cael eu heffeithio gan y broblem ffiaidd hon i atal perchnogion anghyfrifol rhag andwyo ein cymunedau.

"Rydym hefyd eisiau i aelodau o'r cyhoedd helpu trwy ddweud am achosion o faeddu gan gŵn mewn mannau cyhoeddus. Po fwyaf rydyn ni'n ymwybodol o'r broblem, y mwyaf y gallwn dargedu ein hadnoddau."

Mae CPD Croesyceiliog Athletic ymhlith y grwpiau chwaraeon sy'n cefnogi'r ymgyrch Codwch E.

Dywedodd ysgrifennydd y clwb, Robert Gwillim: "Ychydig wythnosau yn ôl roedd yn rhaid i ni glirio mwy nag 20 pentwr o faw cŵn cyn gêm ac roedd ein lloches wedi cael ei droi'n doiled cŵn yn y bôn.

"Ers hynny, rydyn ni wedi gosod ein harwyddion ein hunain yn gofyn i berchnogion gadw eu cŵn oddi ar y cae ac i lanhau ar eu hôl. Serch hynny, rydym wedi dod o hyd i faw cŵn yn union o dan yr arwyddion.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r cyngor ar yr ymgyrch hon - yn hwyr neu'n hwyrach mae plentyn neu oedolyn yn mynd i fynd yn ddifrifol wael."

Mae nifer yr adroddiadau o faw cŵn sydd wedi eu gwneud i'r cyngor dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu o 195 yn 2022 i 283 yn 2024. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o achosion baw cŵn yn mynd heb adrodd amdanynt. Gall perchnogion cŵn roi bagiau baw cŵn wedi'u defnyddio mewn unrhyw fin sbwriel.

Bydd ymgyrch Codwch E y cyngor yn cychwyn ar adeg dechrau rhaglen ehangach o weithgareddau Gwanwyn Glân gyda'r nod o wella glendid a chynaliadwyedd cymunedau lleol.

Gall grwpiau cymunedol gofrestru i gymryd rhan yn yr ymgyrch Codwch E drwy e-bostio pickitup@torfaen.gov.uk

Gall aelodau'r cyhoedd hefyd roi gwybod am faw cŵn trwy wefan y cyngor neu ap FyNhorfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 02/04/2025 Nôl i’r Brig