Adeiladu yn dechrau ar harddwch cysgu

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 30 Medi 2024
Artist Impression of Greenmeadow Farm

Yr wythnos hon, bydd y gwaith yn dechrau ar ailddatblygiad gwerth £3.7m o Fferm Gymunedol Greenmeadow, gyda'r fferm i ailagor yng Ngwanwyn 2025.

Mae Coley Hill Consultancy wedi cael eu cyflogi gan y cyngor i lunio gweledigaeth a chynllun newydd i’r fferm ac mae dechrau’r gwaith adeiladu’n nodi carreg filltir ar y daith tuag at ailagor. 

Dywedodd Gay Coley, un o aelodau sefydlol y tîm ym Mhrosiect Eden, “Mae ein cynllun yn cynnwys adnewyddu’r adeiladau hanesyddol, creu  mannau awyr agored a dan do newydd ar gyfer bwyta, yfed, dysgu a chwarae, beth bynnag yw’r tywydd.  Bydd buddsoddiad y cyngor yn rhoi bywyd newydd i’r fferm, a bydd hyn yn golygu y gall pobl leol ac ymwelwyr newydd ddod a dysgu am fwyd a ffermio.”

Dywedodd  y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Rydym yn hynod o falch y bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ar y tir ac mae’r garreg filltir bwysig hon yn nodi’r cam nesaf yn adnewyddiad, adfywiad ac ailagor Fferm Gymunedol Greenmeadow.

“Mae’r cyfleusterau newydd wedi eu dylunio gyda’r bwriad o gadw hanes a threftadaeth anhygoel y fferm a diweddaru ac ehangu’r cyfleusterau a fydd yn gwella hygyrchedd i bob ymwelydd.  Mae cael peiriannau trwm ar y safle’n gam cyffrous yn y broses o ddod â’n gweledigaeth ar gyfer y fferm yn fyw.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae’r buddsoddiad gan y cyngor yn rhoi sail gadarn i ar gyfer dyfodol cynaliadwy i’r fferm a bydd yn sicrhau bod y fferm yn dod yn ased cymunedol  bywiog. Bydd y cyfleusterau newydd yn dod â bywyd newydd i’r fferm, a bydd unwaith eto’n dod yn atyniad ymwelwyr anhygoel i deuluoedd lleol a chwsmeriaid o ar draws y rhanbarth.

Bydd ailddatblygiad newydd y fferm yn cynnwys:

  • ysgubor wair ar ei newydd wedd a fydd yn addas ar gyfer digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys priodasau a phartïon
  • ysgubor chwarae dan do newydd gydag offer chwarae ac ardal chwarae antur newydd yn yr awyr agored 
  • ysgubor anifeiliaid newydd
  • caffi newydd mwy helaeth
  • siop fferm wedi ei wella i hyrwyddo cynnyrch lleol a chyflenwyr
  • tirweddu deniadol gyda choetiroedd, llwybrau a llwybrau synhwyraidd
  • gwelliannau i fynedfa’r fferm a hygyrchedd y safle.

Bydd y fferm hefyd yn elwa o fuddsoddiad mewn llwybrau hygyrch newydd o amgylch y fferm a system gwresogi ynni-effeithlon newydd.

Rhoddwyd y cytundeb ar gyfer adeiladwaith i G Oakley and Sons ar ôl proses dendro gystadleuol.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/01/2025 Nôl i’r Brig