Gweinidogion yn canmol gwasanaeth iechyd meddwl i blant

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Medi 2024
Ministers visit final

Ddydd Iau, ymwelodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru â My Support Team (MyST) ym Mhont-y-pŵl i ategu pwysigrwydd cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol i bobl ifanc mewn gofal.

Siaradodd Sarah Murphy, Gweinidog dros Iechyd a Lles Meddyliol, a Dawn Bowden, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, â theuluoedd a staff i ddysgu am yr amrywiaeth o wasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu cynnig gan y tîm.

Gwasanaeth iechyd meddwl i bobl ifanc hyd at 18 oed yw rhaglen ranbarthol My Support Team (MyST).

Mae’r rhaglen, sy’n defnyddio amrywiaeth eang o fodelau seicotherapiwtig, wedi cefnogi 97 o blant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl cymhleth, a’u ffrindiau a’u teuluoedd, dros y 12 mis diwethaf.

Mae staff MyST hefyd wedi rhoi cefnogaeth seicolegol i 130 o bobl ifanc eraill sy’n ymwneud â’r gwasanaethau plant.

Mae effaith drawsnewidiol MyST wedi arwain at un tad yn diolch i'r gwasanaeth am y gefnogaeth wrth helpu ei ferch i bontio o ofal preswyl i fyw lled-annibynnol. Dywedodd:

“Pan mae hi’n (Ymarferydd Therapiwtig Arweiniol) dod i fy nghartref, mae ganddi ei chwpan ei hun oherwydd mae ganddi le yn ein teulu.  Rydym ni’n siarad am nifer o bethau, ond mae hi bob amser yn gwrthod barnu, mae hi’n gwrando’n dda a does gyda ni ddim cwyn amdani o gwbl.

“Rydw i wedi dymuno bod yna wasanaeth fel ei gwasanaeth hi pan oeddwn i’n blentyn. Mae MyST wedi gwneud cymaint i fy nwy ferch.”

Mae rhaglen My Support Team yn dilyn fframwaith NYTH Llywodraeth Cymru – rhoi Nerth, Ymddiried, Tyfu’n ddiogel, Hybu – ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd a lles meddyliol i fabanod, plant a phobl ifanc, a’u teuluoedd.

Mae’r rhaglen, sydd wedi elwa o’r blaen o dros £1.4m fel rhan o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol, yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn gofal ac sydd ag anghenion iechyd meddwl a chymdeithasol cymhleth.

Ei nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc, yn ogystal â’u rhwydweithiau cefnogaeth, yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo trwy amrywiaeth o gefnogaeth seicolegol uniongyrchol a dull system gyfan gyda gofal.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Mae'r cymorth hwn gydag iechyd meddwl yn hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc â phrofiad o ofal yn gallu manteisio ar y cymorth y mae ei angen arnynt i lwyddo mewn bywyd.

"Mae Fy Nhîm Cefnogol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cymorth therapiwtig a fydd yn rhoi hwb i'w hiechyd meddwl a'u llesiant meddyliol."

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Dawn Bowden: "Mae angen i ni sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd mewn gofal, ar ymylon gofal ac mewn gofal maeth yn cael y gefnogaeth iawn i fyw bywydau sefydlog.

"Trwy raglenni fel Fy Nhîm Cefnogol, sy'n dod ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau addysgol ynghyd, gallwn sicrhau bod y sylfeini yn eu lle i gyflawni hyn."

Diwygiwyd Diwethaf: 27/09/2024 Nôl i’r Brig