Cyfle i ddweud eich dweud am gyfleoedd chwarae

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Medi 2024
ball pit

Mae ymgynghoriad newydd i helpu i lunio dyfodol cyfleoedd chwarae ar draws cymunedau yn Nhorfaen wedi cael ei lansio.

Cynhelir yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae gan Gyngor Torfaen bob tair blynedd ac mae'n gwerthuso argaeledd cyfleoedd chwarae a hamdden i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, a’u hansawdd.

Ei nod yw casglu adborth am ddarpariaethau chwarae wedi’u staffio, seilwaith fel parciau, mannau chwarae a mannau agored, a gweithgareddau'r blynyddoedd cynnar, chwaraeon, ieuenctid a diwylliannol.

Mae hefyd yn ystyried ffactorau fel amser, lle a chaniatâd i chwarae, ac yn anelu at adnabod ardaloedd lle gallai cyfleoedd chwarae fod yn brin, a’u gwella.

Pam cymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

Trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gallwch leisio'ch pryderon, rhannu mewnwelediadau am y ddarpariaeth chwarae ar hyn o bryd, a thynnu sylw at ardaloedd y mae angen eu gwella.

Bydd eich mewnbwn hefyd yn helpu i lunio polisïau a mentrau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar amgylcheddau chwarae plant ac yn sicrhau bod gan blant fynediad at gyfleoedd chwarae diogel, difyr ac amrywiol.

Mae adborth y cyhoedd mewn ymgynghoriadau blaenorol wedi arwain at ddatblygu sesiynau poblogaidd fel chwarae i’r teulu, sesiynau seibiant a gweithgareddau chwarae dros y penwythnos.

I gael dweud eich dweud am chwarae, ewch i wefan Dweud Eich Dweud y Cyngor, yma. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddiwedd mis Ionawr 2025.

Y camau nesaf

Bydd adborth o'r ymgynghoriadau yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynllun gweithredu, a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025.

Bydd crynodeb o'r canfyddiadau llawn hefyd ar gael ar wefan y Cyngor ac ar y dudalen Dweud Eich Dweud hon ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rwy'n annog pob rhiant a gofalwr i gymryd rhan i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae eich mewnbwn yn hanfodol i sicrhau bod cyfleoedd chwarae a hamdden yn gynhwysol ac yn diwallu anghenion eich plentyn."

"Bydd yr adborth yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ansawdd chwarae a hamdden yn Nhorfaen, a’u hygyrchedd, felly, gyda'n gilydd, dewch i ni greu amgylchedd chwarae gwell i'n plant."

Am ragor o wybodaeth am Wasanaethau Chwarae ar draws Torfaen, cysylltwch â Chwarae Torfaen trwy anfon neges e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 742951.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/09/2024 Nôl i’r Brig