Wedi ei bostio ar Dydd Iau 26 Medi 2024
Mae mwy o ddisgyblion yn cerdded, seiclo a mynd ar gefn eu sgwter i ysgol yng Nghwmbrân ers iddyn nhw gyflwyno cynllun teithio llesol ar gyfer ysgolion.
Ysgol Gynradd Llantarnam oedd y cyntaf yn Nhorfaen i fabwysiadu'r cynllun teithio llesol newydd diweddaraf ym mis Gorffennaf 2022, gyda'r nod o gynyddu nifer y disgyblion sy'n teithio'n llesol yn rheolaidd i'r ysgol.
Ers hynny, mae tîm teithio llesol y cyngor wedi gweithio gyda'r ysgol i greu man i storio sgwteri, trefnu hyfforddiant seiclo, cynnal arolygon, creu llwybrau teithio llesol newydd a gosod croesfan sebra a mynedfeydd ychwanegol i'r ysgol.
Ers hynny, mae'r ysgol wedi gofyn am le ychwanegol i storio beiciau oherwydd nifer y disgyblion sydd bellach yn seiclo i’r ysgol.
Dywedodd Will, disgybl ym Mlwyddyn 5: "Dwi'n hoffi seiclo i'r ysgol achos dwi'n hoffi cael awyr iach, ac mae'n fy helpu i gadw'n heini."
Dywedodd Joseph, disgyblion ym Mlwyddyn 4: "Mae'n well gen i seiclo i'r ysgol achos mae'n gynt na cherdded".
Ychwanegodd Conner, hefyd ym Mlwyddyn 4: Weithiau rwy'n reidio fy meic i'r ysgol, ac weithiau rwy'n defnyddio fy sgwter. Mae fy mrawd bach yn ddwy oed, ac mae'n reidio ei feic i'r ysgol gyda fi. Rydw i wir yn mwynhau pan fyddwn ni'n reidio ein beiciau gyda'n gilydd."
Yr wythnos hon, mae'r ysgol hefyd wedi bod yn nodi Wythnos Beicio i'r Ysgol.
Dywedodd Kate Bailey, Uwch Swyddog Cymorth yr Ysgol,: “Mae’r cynllun teithio llesol wedi galluogi pawb i feddwl am fanteision cerdded, seiclo a mynd ar gefn sgwter - Rydym nawr yn siarad â'r plant am y manteision ac rydym yn eu hannog i gael sgyrsiau tebyg gartref.
“Rydym yn ffodus yma, am fod y cyngor wedi datblygu llwybrau teithio llesol newydd yn ddiweddar sy'n arwain at yr ysgolion, felly mae rhieni'n hapus i adael i'w plant seiclo ar eu hyd gan eu bod i ffwrdd o geir.
“Gan ein bod yn ysgol newydd, mae gennym fannau i storio beiciau, ond rydyn ni wedi gorfod gofyn am fwy o le i storio am fod cymaint o ddisgyblion yn seiclo i’r ysgol erbyn hyn.”
Yn ôl traciwr WOW Strydoedd Byw yr ysgol, mae 68 y cant o ddisgyblion wedi cerdded, seiclo neu fynd ar gefn eu sgwter i’r ysgol hyd yn hyn, y mis hwn.
Mae tîm teithio llesol y cyngor wedi cefnogi 13 ysgol arall yn Nhorfaen i ddatblygu cynlluniau teithio llesol ac mae'n gweithio gyda thair ysgol arall.
Darllen mwy am deithio llesol yn Nhorfaen