Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Medi 2024
Mae cyfres o welliannau wedi eu gwneud i wasanaeth mynwentydd y cyngor ar ôl arolwg cyhoeddus ac adolygiad mewnol.
Cafwyd arolwg ar-lein yn gynharach eleni i gael barn trigolion am y ffordd y mae gwasanaeth mynwentydd y cyngor yn gweithredu.
Cwblhaodd 500 o bobl yr arolwg, gyda thua 30 y cant o bobl yn dweud bod safon y gwasanaeth ar y cyfan yn dda neu’n ardderchog.
Serch hynny, dywedodd dros 40 y cant ei fod yn wael neu’n wael iawn – gan fynegi pryderon am amlder torri gwair mewn mynwentydd, diffyg gwybodaeth am y gwasanaeth, ac anawsterau cysylltu â staff.
Mae nifer o newidiadau wedi eu gwneud i ymateb i’r adborth, gan gynnwys defnyddio staff mewn ffordd fwy hyblyg ar draws y cyngor i sicrhau bod yr amserlen torri gwair a gwaith cynnal a chadw arall i’r tiroedd yn cael ei chadw.
Mae’r gwasanaeth ers hynny wedi derbyn canmoliaeth gan ymwelwyr a llai o gwynion am gyflwr y gwair.
Mae arwyddion a byrddau gwybodaeth newydd hefyd wedi eu gosod mewn mynwentydd, ac mae cyngor a gwybodaeth ar-lein wedi ei ddiweddaru.
Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda threfnwyr angladdau ac ymwelwyr i ystyried cyfleoedd i gydweithio i wella trafodaeth a rhannu gwybodaeth, a gwella amgylchedd y mynwentydd.
Mae ymholiadau’n cael eu gwneud i hwyluso sesiynau cefnogaeth galar newydd neu sesiynau cwnsela yn swyddfa Mynwent Llwyncelyn ac mae disgwyl i staff gwblhau hyfforddiant galar pellach.
Er bod yr arolwg yn dangos bod mwyafrif y bobl a atebodd yn hapus gyda pholisi personoliad beddau’r cyngor, mae gwelliannau wedi eu gwneud i’r wybodaeth a’r cyfathrebu a roddir i berchnogion beddau. Mae adolygiad yn mynd i gael ei gynnal i sut mae’r polisi’n cael ei weithredu, fel bod teuluoedd mewn galar yn cael cefnogaeth well.
Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg yn gynharach eleni. Mae eich barn wedi bod yn allweddol wrth ein helpu ni i wella’r gwasanaeth i deuluoedd mewn galar.
"Rwy’n falch bod gostyngiad wedi bod mewn cwynion, ond mae un gŵyn yn un yn ormod. Byddwn yn parhau i wrando ar drigolion i wneud yn siŵr bod pobl sy’n ymweld â’n mynwentydd yn cael y gwasanaeth y maen nhw’n ei ddisgwyl.”
Dangosodd yr arolwg bod mwyafrif y rhai a atebodd yn dweud fod y profiad a gawson nhw yn ystod claddedigaethau, yn enwedig y gefnogaeth gan staff, yn dda neu’n ardderchog.
Mae Cyngor Torfaen yn gyfrifol am Fynwent Blaenafon, Mynwent Panteg, Mynwent Cwmbrân a Mynwent Llwyncelyn.