Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Medi 2024
Mae’r tîm pêl fasged ieuenctid cyntaf yn Nhorfaen yn bwriadu ceisio ymuno â Chynghrair Pêl Fasged De Cymru’r flwyddyn nesaf.
Sefydlwyd clwb Torfaen 20 Nuggets llynedd ar ôl i Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru fod bron hanner y bobl ifanc ddweud bod ganddynt ddiddordeb yn y gamp.
Mae dros 20 o bobl ifanc, rhwng 14-18 oed, wedi bod yn ymarfer gyda’r tîm cymysg yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl pob nos Wener.
Dywedodd y sylfaenwyr, Breyen a Theo, 16 oed, sydd nawr yn helpu i hyfforddi’r tîm: “Mae’n wych gweld chwaraewyr iau yn mwynhau’r gêm ac yn datblygu eu sgiliau”.
Ychwanegodd Dylan, 17 oed, sydd wedi bod yn chwarae dros y clwb ers iddo ddechrau 12 mis yn ôl: “Mae chwarae pêl fasged dros Torfaen 20 Nuggets wedi bod yn brofiad gwych. Mae’r awyrgylch yn y tîm a’r gêm ei hun yn rhywbeth rwy’n mwynhau pob wythnos, ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r clwb”.
Y mis yma, oherwydd cynnydd mewn diddordeb, mae’r clwb wedi ei rannu’n sesiynau bechgyn a merched ar wahân, gan groesawu chwaraewyr o bob gallu.
Mae tîm y merched nawr yn ymarfer yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl rhwng 5:00-6:00pm, gan ddechrau ar 27ain Medi. Mae tîm y bechgyn hefyd yn ymarfer yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl pob dydd Mawrth, rhwng 5.30-6.30pm, gan ddechrau ar 1af Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: “Mae’n wych clywed sut mae barn pobl ifanc at gynnig camp newydd yn y fwrdeistref. Rwy’n falch bod ein buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon yn helpu i dyfu’r gamp, ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi Torfaen 20 Nuggets yn y gynghrair y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Sam Gilbert, Swyddog Cyfranogiad a Chynhwysiant ym Mhêl Fasged Cymru: "Trwy ein partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru, gallwn weld ardaloedd ledled Gwent ble mae yna alw uchel am bêl fasged, gan alw ar y gymuned i gamau at rolau newydd sy’n gwneud timau fel 20 Nuggets yn bosibl.
“Fel corff llywodraethu cenedlaethol, rydym yn gwybod fod yna nifer o bobl ifanc sy’n dysgu pêl fasged yn eu hamser eu hunain. Mae sefydlu clybiau mewn mannau yn Nhorfaen yn ein helpu i roi’r cyflwyniad gorau i bobl ifanc a llwybr at chwaraeon cystadleuol."
Cynhelir y sesiynau gan hyfforddwyr proffesiynol ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan Ddatblygiad Chwaraeon Torfaen, Pêl Fasged Cymru a Chwaraeon Cymru.
Am fwy o wybodaeth am y sesiynau pêl fasged, cysylltwch â thîm datblygiad chwaraeon y cyngor trwy 01633 628936 neu danfonwch neges atyn nhw ar eu tudalen Facebook .