Sadwrn Bwyd Stryd yn dod â blas i Bont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 29 Hydref 2024

Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yw’r cyrchfan ar gyfer bwyd da ym mis Tachwedd, wrth i’r Sadyrnau Bwyd Stryd poblogaidd barhau i ddenu tyrfaoedd.  

Ers eu lansio ym mis Medi, mae’r digwyddiadau yna wedi dod yn hafan i selogion bwyd sy’n awyddus i flasu amrywiaeth o ddanteithion bwyd stryd. 

Mynegodd un o’r trigolion lleol, Tom Hayward, 33, ei frwdfrydedd: “Mae’r digwyddiadau wedi bod yn wych! Mae’r bwyd yn flasus dros ben, ac mae’n wych cael bwyd o ansawdd cystal ar stepen drws. Hefyd mae’n ffordd wych o gefnogi ein cymuned leol.” 

Gyda rhestr gyffrous o werthwyr ar y gweill, mae Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar y dyddiadau canlynol: 

  • Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd: Cracklin/Pwdin – Bwyd Cysur Clasurol, gan gynnwys, selsig, brechdanau crasu, crwyn tatws, a phwdinau. 10PM - 4PM 
  • Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd: Three Gizas – Profwch flas cyfoethog, sawrus bwyd stryd Eifftaidd. 12PM - 4PM 
  • Dydd Sadwrn, 23 Tachwedd: Ychafi – Cigoedd, brechdanau blasus a hambyrddau llawn sy’n addo gwledd i’r synhwyrau. 12PM - 4PM 
  • Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd: Fire and Flank –  Ymweliad ddim i’w fethu i’r rhai sy’n caru stecen a sglodion! 12PM - 4PM 

Peidiwch â cholli cyfle i gefnogi gwerthwyr lleol a phrofi diwylliant bwyd bywiog Pont-y-pŵl. 

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae Sadyrnau Bwyd Stryd wedi bod yn uchafbwynt i’n cymuned, gan ddod â phobl ynghyd dros fwyd gwych.  

“Rydym yn falch o ddangos creadigrwydd ac amrywiaeth gwerthwyr lleol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld hyd yn oed mwy o ymwelwyr yn mwynhau’r digwyddiadau bywiog yma. 

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed mwy o ymwelwyr yn yr wythnosau i ddod.” 

Cewch wybod y diweddaraf am stondinwyr a digwyddiadau trwy ddilyn Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar Facebook ac Instagram

Mae’r Sadyrnau Bwyd Stryd yn rhan o fenter digwyddiadau Canol y Dref, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £50,000 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU ar gyfer 2024/25. 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025 Nôl i’r Brig