Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 22 Hydref 2024
Mae dau frawd wedi cael Gwobr Ddinesig ar ôl casgliad sbwriel noddedig i godi arian i’w hysgol.
Gosododd Rudi a Layne Thompson, o Varteg, her iddyn nhw eu hunain i gasglu 20 sach fawr o sbwriel dros wyliau’r haf i godi arian ar gyfer gwisg rygbi/pêl droed newydd i Ysgol Bryn Onnen.
Eu nod oedd codi £150, ond llwyddon nhw i godi £250.
Cyflwynwyd y wobr i Rudi a Layne gan Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt mewn cyfarfod o’r cyngor ddydd Mawrth.
Dywedodd Rudi, naw oed, sy’n chwarae i dîm dan 10 Clwb Blaenafon a Rhanbarth Pont-y-pŵl: "Casglon ni sbwriel mewn meysydd parcio a pharciau sglefrio dros chwe wythnos. Helpodd ein chwaer fach Harley ac weithiau roedd ffrindiau’n helpu hefyd.
"Clirion ni’r sbwriel o dan y rampiau ym mharc sglefrio Pont-y-pŵl a chymeron ni ein codwyr sbwriel i gemau rygbi."
Ychwanegodd Layne, saith oed: "Roeddwn i’n hoffi clirio sbwriel o’r heolydd."
Cafodd Rudi a Layne offer codi sbwriel oddi wrth eu cynghorydd lleol, Chris Tew, a’u henwebodd ar gyfer y Wobr Ddinesig.
Dywedodd y Cyng. Tew: "Mae’r hyn y mae’r bechgyn wedi gwneud yn wych – maen nhw’n esiampl i bawb."
Dywedodd eu mam, Emma: "Agoron ni dudalen Just Giving gyda’r bwriad o godi £150 ond fe godon nhw £250, diolch i roddion gan deulu a ffrindiau.
"Mae’r arian yma, ynghyd â rhoddion hael gan fusnesau lleol, Phil Anslow, Heritage Funeral Service a Ruck Um Maul, wedi ein galluogi ni i godi digon o arian ar gyfer gwisg rygbi/pêl-droed newydd a phrynu offer arall fel bibiau pêl-rwyd a pheli chwaraeon.
"Rydym yn gobeithio nawr y gallwn ni gynnal digwyddiad arall gyda’r ysgol yr haf nesaf."
Dywedodd pennaeth Ysgol Bryn Onnen, Rhys ap Gwyn: "Mae pawb yn Ysgol Bryn Onnen yn hynod falch o Layne a Rudi.
"Nid yn unig maen nhw wedi tacluso’r ardal leol ac wedi clirio llawer o sbwriel, maen nhw hefyd wedi codi arian i helpu i brynu offer i dimau chwaraeon yr ysgol."
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn codi sbwriel gael benthyg offer am ddim gan un o’n hybiau codi sbwriel.
Dewch o hyd i’ch hwb codi sbwriel lleol