Wedi ei bostio ar Dydd Llun 7 Hydref 2024
Mae disgyblion Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1 yn cael dysgu’n gynnar sut i fynd ar gefn beic.
Mae tîm y cyngor sydd yn gyfrifol am deithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd, yn cynnig un o'r sesiynau beicio cydbwyso i bob ysgol gynradd er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion iau ddysgu hanfodion sut i reidio beic.
Yn y sesiynau hyn maent yn dysgu’r sgiliau hyn mewn ffordd ddifyr ac ymarferol, gyda llawer o gemau a gweithgareddau, felly’n rhoi cyfle iddynt gael blas ar feicio yn ifanc.
Hyd yn hyn, mae 24 o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer yr hyfforddiant sy'n anelu i ddysgu’r camau hanfodol i blant ddod yn feiciwr diogel a hyderus yn y dyfodol.
Dywedodd Catrin Evans, Pennaeth, Ysgol Gymraeg Cwmbrân: “Roedd ein disgyblion, o'r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 1 wir wedi mwynhau ac elwa yn fawr o'u sesiynau beicio cydbwyso. Roedd pob un ohonynt yn frwdfrydig a roesant gant y cant.
“Braf iawn oedd gweld eu hyder yn cynyddu wrth i bob sesiwn symud ymlaen.”
Dywedodd Leeann Lewis ac Aeden Oneill o gwmni Gethin Mtb sy'n cynnal yr hyfforddiant: “Rydym wrth ein bodd o gael y cyfle i weithio ochr yn ochr â Chyngor Torfaen, a chynnig hyfforddiant beiciau cydbwyso i bob ysgol gynradd yn yr awdurdod.
“Mae'n gyfle enfawr i blant ddechrau bywyd ar ddwy olwyn, sy’n arwain at ffyrdd o fyw sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy.”
Darperir y beiciau cydbwyso, sydd heb bedalu, ynghyd â’r helmedau, ac unrhyw offer arall sy’n cael ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu hyder a gallu’r plentyn i gydbwyso.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae'r adborth a gawsom gan ysgolion sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn wedi bod yn wych.
“Trwy ddysgu'r sgiliau hanfodol hyn i'n plant, rydym nid yn unig yn hyrwyddo ffordd iachach o fyw ond hefyd yn sicrhau eu bod yn barod i deithio’n ddiogel ar ein ffyrdd.
“Mae'r fenter hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i les a diogelwch ein preswylwyr ifainc.”
Hyfforddiant Beiciau Cydbwyso yw un o'r mentrau a gyflwynwyd yn 2024/25 trwy'r fenter teithio llesol. Derbyniodd y fenter £250,000 yn 2024/25 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Mae swyddogion y cyngor hefyd wedi derbyn hyfforddiant fel rhan o’r prosiect hwn, fel y gallant fynd ati i gynnig hyfforddiant beiciau cydbwyso yn y dyfodol.
Mae ein tîm teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd yn cefnogi ysgolion ledled y fwrdeistref i ddatblygu cynlluniau teithio llesol yn eu hysgolion. Mi fydd hyn yn cynyddu’r ffyrdd y mae disgyblion, rhieni a staff yn cerdded, seiclo neu fynd ar gefn eu beiciau neu’u sgwteri i'r ysgol.
Dysgu mwy am deithio llesol yn Nhorfaen