Cynnydd yng nghyfradd presenoldeb yn yr ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 9 Hydref 2024

Mae presenoldeb cyfartalog mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi codi dri y cant ym mis Medi, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae'n dod â chyfraddau cyfartalog presenoldeb yn yr ysgol yn Nhorfaen, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, i 93 y cant.

Mae'n golygu mai Torfaen sydd â'r trydydd presenoldeb cyfartalog uchaf yng Nghymru - cynnydd o 15 lle ers mis Hydref 2022.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'r cynnydd mewn presenoldeb cyfartalog yn yr ysgol fis diwethaf yn gyflawniad gwych i ddisgyblion, rhieni, ysgolion a'r gwasanaeth addysg yn ehangach.

"Mae ymchwil wedi dangos cysylltiad uniongyrchol rhwng presenoldeb da a chyflawniad academaidd da, felly mae cefnogi plant i fynychu'r ysgol yn rheolaidd yn ganolog i Amcan Llesiant ein Cynllun Sirol, sef gwella cyrhaeddiad addysgol.

"Serch hynny, fel y mae ein hymgyrch Ddim Mewn Colli Mas yn ei ddangos, mae yna amrywiaeth eang o fanteision eraill i fynychu'r ysgol yn rheolaidd, gan gynnwys gwneud ffrindiau, cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a chael cyngor am yrfaoedd."

Gostyngodd cyfraddau presenoldeb cyfartalog ysgolion yn Nhorfaen i un o'r isaf yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid.

Ers hynny, mae llawer o ysgolion wedi dod â staff ychwanegol i mewn i gefnogi disgyblion a theuluoedd ag anghenion ychwanegol, er enghraifft problemau corfforol neu emosiynol hirdymor.

Y ddau awdurdod lleol â'r presenoldeb cyfartalog uchaf ym mis Medi oedd Ceredigion gyda 93.6 y cant a Sir Fynwy gyda 93.4 y cant.

Roedd yr ymgyrch #DdimMewnColliMas hefyd yn anelu at leihau ceisiadau am absenoldebau awdurdodedig neu anawdurdodedig am resymau heblaw salwch neu apwyntiadau meddygol, er enghraifft cymryd diwrnodau i ffwrdd ar gyfer gwyliau neu apwyntiadau arferol fel archwiliadau deintyddol.

Os na all plentyn fynychu'r ysgol, rhaid i'w riant neu ofalwr gysylltu â'i ysgol cyn gynted â phosibl. Gallai methu â gwneud hynny arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig.

Rhagor o wybodaeth am Strategaeth Bresenoldeb Cyngor Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 09/10/2024 Nôl i’r Brig