Llwyddiant dysgu yng Ngharreg Lam

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 3 Hydref 2024
Carreg Lam

Mae canolfan sy’n cefnogi plant oedran ysgol gynradd i bontio i addysg gyfrwng Cymraeg wedi helpu dros 40 o ddisgyblion ers ei agor llynedd. 

Mae Carreg Lam, yn Ysgol Panteg, ym Mhont-y-pŵl, yn cynnal rhaglen 12 wythnos o hyd i helpu plant 7 i 11 oed i wella’u Cymraeg fel y gallan nhw bontio o addysg Saesneg.

Ymunodd Bradley ac Isaac â’r rhaglen ddwys, ymdrochol, dysgu Cymraeg yn Ebrill. 

Yn ystod y cwrs, dysgon nhw’r iaith trwy bynciau fel ‘Y Parc’, ‘Y Caffi’ ac ‘Anifeiliaid yng Nghymru’ sydd wedi eu galluogi nhw i ddefnyddio geiriau ac ymadroddion newydd gyda ffrindiau a gartref.

Dywedodd mam Isacc, Sophie: “Roeddwn i’n nerfus i ddechrau am weld Isaac yn pontio o ysgol Saesneg i ysgol Gymraeg, ond mae’n un o’r penderfyniadau gorau i mi wneud fel rhiant.

“Mae ei allu mewn Cymraeg wedi datblygu’n rhyfeddol mewn cyn lleied o amser.  Mae gweld fy mhlentyn yn hapus i fynd i’r ysgol bob dydd yn cadarnhau i mi pa mor dda oedd fy mhenderfyniad i symud fy mhlentyn i addysg Gymraeg.”

Dywedodd mam Bradley, Lauren: "Cyn iddo ddechrau gyda Charreg Lam, roedd yn ansicr beth oedd y pwrpas a pham ei bod mor bwysig. Ar ôl ei amser yng ngharreg Lam, mae ei agwedd wedi newid yn llwyr.

“Mae e nawr yn mwynhau ymwneud â’r iaith Gymraeg ac mae e wedi datblygu awydd newydd i ddysgu.  Mae e wedi cael hyder newydd ac mae hyd yn oed wedi siarad am fod yn athro.”

Carys Soper, Arweinydd y Ganolfan Drochi: “Yng Ngharreg Lam, rydym yn ymfalchïo mewn mwy na dim ond datblygiad iaith. Mae ein canolfan yn rhywle ble mae plant yn cael eu hannog i dyfu’n gymdeithasol, yn emosiynol ac yn academaidd.

“Diolch i gefnogaeth ein tîm addysgu ymroddedig, pontiodd Isaac a Bradley’n rhwydd i ddosbarth Cymraeg prif ffrwd yn Ysgol Panteg ar ddiwedd Gorffennaf.  Mae eu teithiau’n dyst i’r amgylchedd cefnogol sydd gennym, ble mae cynnydd unigol pob plentyn yn cael ei ddathlu.”

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i ddatblygu’r iaith Gymraeg yma yn Nhorfaen, gan gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2025.”

“Mae rhaglen drochi hwyr Carreg Lam yn enghraifft o sut y gallwn ni helpu plant i ddatblygu’r sgiliau ieithyddol a’r hyder y mae eu hangen i ffynnu mewn addysg Gymraeg. Rydym yn hynod o falch o lwyddiant Isaac a Bradley ac rydym yn edrych ymlaen at weld eu datblygiad pellach.”

Os hoffech chi i’ch plentyn gael profiad addysg Gymraeg, gallwch gysylltu â Charreg Lam i drefnu ymweliad. E-bostiwch carreg.lam@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 762581.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/10/2024 Nôl i’r Brig