Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 29 Hydref 2024
Mae disgyblion ysgolion cynradd yn Nhorfaen wedi helpu i ddod â stori Windrush yn fyw trwy gelf a barddoniaeth fel rhan o ddigwyddiad i nodi Mis Hanes Pobl Ddu.
Dangoswyd eu gwaith yng Ngwesty Parkway, Cwmbrân, ar ddydd Gwener, fel rhan o ddathliadau i gydnabod cyfraniad parhaus cenhedlaeth y Windrush. Daeth Y digwyddiad i ben gyda noson arbennig i westeion o gymuned y Windrush, aelodau cymunedau amrywiol eraill a chynrychiolwyr lleol.
Derbyniodd Maurice Spring wobr Chris Campbell am ei gyfraniad i elusen ac i godi amlygrwydd Cenhedlaeth Windrush gyda'i waith ar y teledu a ffilm.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Cymuned Cwmbrân, diolch i Grant Cydlyniant Cymunedol gwerth £3,000. Cafodd cynghorydd cymunedol Cwmbrân, Sean Wharton, y daeth ei rieni i Brydain, o Sant Kitts ar ddechrau'r 1960au, hwyr, y syniad am Ddiwrnod Windrush Torfaen.
Dywedodd Sean: ‘Rhoddodd digwyddiad ‘Windrush trwy’r celfyddydau’ gyfle i blant wneud ymchwil i genhedlaeth a gyfrannodd yn gadarnhaol, er gwaethaf anawsterau sylweddol, gan gynnwys hiliaeth, at ailsefydlu’r DU ar ôl y rhyfel, ac sy’n parhau i gyfrannu at ein cymuned heddiw. Parhaodd y noson i ddathlu cenhedlaeth y Windrush trwy ddod ag aelodau gwahanol o’r gymuned at ei gilydd, cyflwyno gwobr Chris Campbell, band dur. Côr Efengylaidd, cyflwyniad hanesyddol am Rỳm, cerddoriaeth a barddoniaeth gan y Bardd Plant. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac rydym eisoes yn trafod sut i’w wneud yn ddigwyddiad blynyddol.’
Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt: ‘Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i gymunedau ddod ynghyd i herio gwahaniaethu a dathlu’r lle maen nhw’n byw ynddo, gan gydnabod ein hanes ar y cyd ac yn unigol. Roedd yn anrhydedd treulio amser gyda’n gilydd, a chanolbwyntio ar gyfraniad cenhedlaeth Windrush i wead ein cenedl, i’n gwasanaethau cymdeithasol, i’n cymunedau ac i’r economi.’
Cymerodd disgyblion o ysgolion cynradd Blaenafon, Garnteg, Cwmffrwdoer a Woodlands ran yn y digwyddiad. Dywedodd Naomi, o Ysgol Gynradd Wirfoddol Treftadaeth Blaenafon: ‘Fe ysgrifennon ni ein cerddi ein hunain am daith y llong a’u rhoi ar gyfrifiadur.’
Ychwanegodd Tomos: ‘Roedd gen i ddiddordeb mewn dysgu am sut ddaeth y bobl yma a sut cawson nhw eu trin.’
Dywedodd Ava, o ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands: ‘Rydym wedi bod yn dysgu am Windrush ac yn defnyddio deunyddiau gwahanol i wneud collage anferth.’
Dywedodd Keaton: ‘Dysgais sut helpodd cenhedlaeth Windrush yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rydym wedi bod yn dysgu am hyn yn yr ysgol.’
Bydd cerdd a berfformiwyd gan Alexander Wharton, Bardd Plant Cymru, yn cael ei rhannu nawr gydag ysgolion cynradd.
Mae fideo o aelodau o’r gymuned Windrush yn siarad am eu profiadau ar gael ar dudalen YouTube y cyngor.