Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Hydref 2024
Mae Fforwm Ieuenctid Torfaen wedi ethol cadeirydd newydd a dau ddirprwy gadeirydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Cafodd Charlotte Rapier disgybl Blwyddyn 11 Ysgol Gymraeg Gwynllyw ei hethol yn gadeirydd ar ôl addo i roi blaenoriaeth i les meddyliol pobl ifanc ,a chefnogi aelodau’r fforwm i lobïo eu hysgolion i greu newid cadarnhaol.
Cafodd Boyd Painter, 16, sy'n mynychu Parth Dysgu Torfaen, a Harry Legge, sydd ym Mlwyddyn 10 yn Ysgol Gorllewin Mynwy, eu hethol fel dirprwy gadeiryddion.
Dywedodd Charlotte: "Rwy'n gyffrous am y gwahaniaeth y gallaf ei wneud i'r fforwm ac rwy'n croesawu trafodaeth a chydweithio."
Dywedodd Boyd, sy'n dychwelyd fel dirprwy gadeirydd am yr ail flwyddyn: "Mae’n bleser mawr gen i ddychwelyd, ac rwy'n gobeithio creu effaith gadarnhaol ar bob person ifanc yn Nhorfaen."
Ychwanegodd Harry: "Mae’n bleser gen i gynrychioli’r cyngor a helpu i wneud penderfyniadau cadarnhaol."
Cynhaliwyd y broses bleidleisio yn yr un modd ag etholiad gwleidyddol, gyda chofrestr, papurau pleidleisio, bwth pleidleisio a blwch pleidleisio dan sêl.
Dywedodd Caroline Genever-Jones, rheolwr etholiadau a oedd yn gyfrifol am yr etholiad: "Yng Nghymru, gall pobl ifanc gofrestru i bleidleisio yn 14 oed a phleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yn 16 oed.
"Bydd rhai o aelodau'r fforwm ieuenctid yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2026. Roedd hwn yn gyfle gwych iddyn nhw weld sut beth yw pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio."
Ar ôl yr etholiad, bu'r 15 aelod yn trafod heriau iechyd a lles sy'n wynebu pobl ifanc yn Nhorfaen a buont yn adolygu drafft o Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y Cyngor.
Bydd y strategaeth yn mynd gerbron y cabinet yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Os caiff ei chymeradwyo, bydd yn gosod y safon o ran sut y bydd holl wasanaethau'r cyngor yn ymgynghori ac yn ystyried barn pobl ifanc yn y dyfodol.
Cytunodd y fforwm hefyd ar eu rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cytunwyd y byddent yn canolbwyntio ar sbwriel, bwlio a’r risgiau y gall fepio ei gael ar iechyd.
Mae'r Fforwm Ieuenctid yn agored i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed. Gall unrhyw un sydd â diddordeb, ac am wybod mwy am y fforwm, siarad â swyddog cyfranogi eu hysgol neu, cysylltu â philip.wilson@torfaen.gov.uk