Gwyddonwyr ifainc yn ennill gwobrau gan brifysgolion

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Hydref 2024

Mae gwyddonwyr ifainc o Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi ennill dwy wobr wyddoniaeth gan brifysgolion.

Cyflwynwyd gwobr goffa i ddisgyblion o Flwyddyn 11, sef Gwenan Dickenson, Rhys Matthias, Lowri Harrington ac Owen Spinks fis diwethaf am un o'u ceisiadau yn Her Bioleg Coleg Homerton Prifysgol Caergrawnt.

Daethant yn 10fed allan o 500 o ysgolion i gyd, ar ôl cwblhau heriau gwyddonol bob chwe mis.

Bythefnos yn ddiweddarach, enillodd Gwenan, Rhys, Lowri a Cody Watkins wobr Her Gwyddorau Bywyd Prifysgol Caerdydd.

Aeth y tîm i rownd yr wyth olaf ar ôl ateb 100 o gwestiynau yn llwyddiannus.

Yna fe fuon nhw gymryd rhan mewn dwy rownd gwis i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ddydd Gwener 13 Medi, a chael eu coroni'n enillwyr cenedlaethol.

Meddai Carys Jenkins, Pennaeth Cynorthwyol: "Rydyn ni’n falch iawn o gyflawniadau diweddar ein myfyrwyr. Maen nhw wedi datblygu eu sgiliau dadansoddi a meddwl yn rhesymegol yn ogystal â'u gallu i edrych ar broblemau'n wrthrychol.

"Yn ogystal, oherwydd eu gwaith adolygu diwyd a'u hastudiaethau manwl, maen nhw’n dod yn wyddonwyr gwybodus a hyderus. Diolch yn fawr i Goleg Homerton Prifysgol Caergrawnt, a gwobr Her Gwyddorau Bywyd Prifysgol Caerdydd am ddarparu'r cyfleoedd cyffrous hyn."

Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae hwn yn gyflawniad trawiadol, yn enwedig o ystyried y ffaith fod disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr hŷn o ysgolion eraill.

"Mae'r tîm hwn yn enghraifft wych o sut mae ein hysgolion yn cefnogi disgyblion i lwyddo ac i ffynnu, sy’n un o'r prif amcanion llesiant yn ein Cynllun Sirol - llongyfarchiadau!"

Nod ymgyrch #DdimMewnColliMas y Cyngor yw dathlu manteision mynd i'r ysgol yn rheolaidd, er enghraifft cyflawniadau academaidd a gweithgareddau allgyrsiol, er mwyn annog presenoldeb da.

Am ragor o wybodaeth am bolisi presenoldeb ysgol Torfaen, ewch i'n gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2024 Nôl i’r Brig