Siaradwyr digwyddiad Menywod mewn Busnes

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Hydref 2024
wib19-ladies-laughing-networking_crop

Bydd dwy fenyw sy’n arweinwyr busnes yn siarad yn nigwyddiad Menywod Torfaen mewn Busnes eleni.

Bydd Debbie Gliniany, perchennog Mamau Ffit, a Vicki Spencer-Francis, Rheolwr-Gyfarwyddwr a sefydlydd Cowshed Communications, yn rhannu eu syniadau am redeg busnesau arobryn yn y digwyddiad yn nes ymlaen y mis hwn. 

Bydd y noson hefyd yn cynnwys adloniant byw, cyfleoedd i rwydweithio, byrddau masnach gan gynnwys marchnad Nadolig bach, a raffl gyda gwobrau gwerth cannoedd o bunnoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Llynedd oedd digwyddiad cyntaf Menywod mewn Busnes ers y pandemig ac roedd yr egni a’r brwdfrydedd yn yr ystafell yn ysbrydoledig.

"Mae’r noson yn gyfle gwych i fenywod busnes o’r un anian rannu profiadau, dysgu oddi wrth ei gilydd, ehangu eu rhwydweithiau busnes a chael amser da dros ben!"

Daeth dros 100 o fenywod i ddigwyddiad llynedd.

Yn eu plith roedd Kirsten Tuck, cyfreithwraig gydag Everett Tomlin Lloyd and Pratt, ym Mhont-y-pŵl, a ddywedodd: “Rwy’ wedi bod i nifer o’r digwyddiadau yma ac maen nhw bob o amser yn ddifyr.  Rwy’n hynod o falch eu bod wedi ailddechrau ac mae wedi bod mor braf gweld cymaint o wynebau newydd."

Bydd digwyddiad Menywod Torfaen mewn Busnes eleni yng Ngwesty’r Parkway, Cwmbrân, ddydd Iau, 14 Tachwedd, rhwng 4.30pm a 8pm.

Mae tocynnau’n £12 yr un, £15 gyda baner sbonc neu £25 gyda bwrdd Ffair Nadolig. I neilltuo tocyn, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk

Bydd digwyddiad Menywod Torfaen mewn Busnes eleni’n cefnogi Cymorth i Fenywod  Cyfannol, sy’n cefnogi dioddefwyr gamdriniaeth ddomestig a’u teuluoedd. Llynedd, cododd y digwyddiad dros £1,500 i’r elusen.

Mae digwyddiad Menywod Torfaen mewn Busnes wedi ei ariannu’n llawn gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/10/2024 Nôl i’r Brig