Cynllun sgiliau i ysgogi twf economaidd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23 Hydref 2024
TSEF workshop

Mae arweinwyr busnes, darparwyr hyfforddiant a chynrychiolwyr y cyngor wedi cyfarfod i drafod ffyrdd o uwchsgilio'r gweithlu lleol i ddiwallu anghenion economi sy’n arloesol a chystadleuol.  

Trefnwyd y digwyddiad gan Fforwm Economaidd Strategol Torfaen, sy'n cynrychioli busnesau mawr yn y fwrdeistref, yn dilyn arolwg y llynedd ar gyfer cwmnïau, a nododd bod diffyg sgiliau a hyfforddiant yn rhwystro twf.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu aelodau'r fforwm â darparwyr hyfforddiant ac uwch arweinwyr y cyngor i nodi'r heriau a'r atebion posibl.

Dywedodd Anita Calverley, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol cwmni gweithgynhyrchu HWM Global, yng Nghwmbrân: "Rydym yn fusnes sy'n tyfu. Rydym yn cyflogi bron i 300 o bobl, y mwyafrif ohonynt wedi'u lleoli yng Nghwmbrân. 

"Rydym eisoes yn manteisio ar y cymorth gwerthfawr sydd ar gael drwy gyrsiau ac adnoddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. A hynny’n benodol o ran darparu hyfforddiant rheoli i'n harweinwyr tîm, goruchwylwyr a rheolwyr yn ogystal â datblygu rhaglen brentisiaeth newydd o fis Medi nesaf.

"Rydym yn croesawu’r cyfle i fod yn rhan o'r sgwrs hon gyda'r fforwm economaidd strategol a busnesau lleol eraill." 

Dywedodd Ryan Tirrell, o gwmni RT Business Systems Solutions: "Dyma gyfle i ni fynd ati ar y cyd i ddiffinio Torfaen fel lle ysbrydoledig i dyfu a datblygu gyrfa broffesiynol.” 

Ychwanegodd Mike Prew, Peiriannydd Gwerthu yn GOS Tool & Engineering Services, ym Mlaenafon: "Roedd yn ddigwyddiad cadarnhaol iawn gyda llawer o gwmnïau lleol newydd yn bresennol. Gobeithio y gallwn ddechrau mynd amdani am y gorau i'r ardal mewn mwy nag un ffordd a hynny drwy weithio gyda'n gilydd”

Dywedodd y Cynghorydd Jo Gauden, a oedd hefyd yn bresennol yn y digwyddiad: "Mae ein Strategaeth Economi a Sgiliau yn nodi gweledigaeth ar gyfer economi arloesol gystadleuol yn Nhorfaen, sy'n golygu gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant i nodi rhwystrau a dod o hyd i atebion i annog mewnfuddsoddi a thwf.

“Cytunwyd y dylai’r ffocws allweddol fod ar weithio gydag ysgolion i feithrin dyheadau pobl ifanc o ran gyrfaoedd, cefnogi pobl ddi-waith i deimlo'n gadarnhaol am ddychwelyd i fyd gwaith, a datblygu sectorau sgiliau arbenigol."

Bydd adborth yn dilyn y digwyddiad yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynllun gweithredu.

Sefydlwyd Fforwm Economaidd Strategol Torfaen yn 2018 i sbarduno datblygiad economaidd yn Nhorfaen. 

Ers 2000, mae cyfran y preswylwyr sydd heb unrhyw gymwysterau yn Nhorfaen wedi haneru. Mae’r gyfran sydd wedi ennill cymwysterau Lefel 2+ y FfCC wedi cynyddu mwy na 10 y cant ac mae'r gyfran â chymwysterau Lefel 3+ wedi symud yn agosach at gyfartaledd Cymru. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r bwlch rhwng Torfaen a Chymru ar gyfartaledd wedi cynyddu fymryn.

Ariannwyd gweithdy sgiliau a hyfforddiant Fforwm Economaidd Strategol Torfaen gan £3,000 Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu sgiliau newydd gysylltu â gwasanaeth y cyngor Torfaen yn Gweithio’ i gael gwybodaeth am gyllid a hyfforddiant.

I gael cyngor ar ddatblygu busnes, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen

Cysylltwch â Fforwm Economaidd Strategol Torfaen: www.tsef.co.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025 Nôl i’r Brig