Wedi ei bostio ar Dydd Llun 21 Hydref 2024
Bydd aelwydydd yn derbyn eu sach ailgylchu goch cyn hir.
Bydd y sachau newydd yn cael eu defnyddio i gasglu plastig, tuniau, caniau a chartonau – gyda gwydr, papur, tecstilau a batris yn cael eu casglu yn eich blwch ailgylchu du.
Bydd y bagiau’n cael eu gwagio’n wythnosol, ochr yn ochr â’ch blwch ailgylchu du, y bag glas i gardbord a’r cadi gwastraff bwyd brown.
Gofynnir i chi ddechrau defnyddio’ch sach goch cyn gynted ag y byddwch yn ei derbyn.
Gyda’ch sach newydd byddwch hefyd yn derbyn taflen yn esbonio beth i’w roi yn y sach ailgylchu goch, a chanllaw i ailgylchu’r cartref yn Nhorfaen.
Dros y pythefnos nesaf bydd tîm ailgylchu’r cyngor yn cynnal sesiynau gwybodaeth yn y mannau canlynol i unrhyw un sydd â chwestiynau am y sachau newydd:
Gofal Cwsmeriaid Blaenafon yng Nghanolfan Adnoddau Blaenafon
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Hydref
Amser:10am – 2pm
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn y Caffi Atgyweirio
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Hydref
Amser: 10am – 2pm
Llyfrgell Cwmbrân
Dyddiad: Dydd Iau, 24 Hydref
Amser: 10am – 2pm
Gofal Cwsmeriaid Blaenafon yng Nghanolfan Adnoddau Blaenafon
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Hydref
Amser: 10am – 2pm
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn y Caffi Atgyweirio
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Hydref
Amser: 10am – 2pm
Llyfrgell Cwmbrân
Dyddiad: Dydd Iau, 31 Hydref
Amser: 10am – 2pm
Dysgwch fwy am ailgylchu yn Nhorfaenhttps://www.torfaen.gov.uk/cy/RubbishAndRecycling/Rubbish-and-Recycling.aspx