Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Hydref 2024
Rhwng dydd Llun 21 Hydref a dydd Gwener 29 Tachwedd bydd rhan o St Davids Road, Cwmbrân ar gau i wneud gwaith i wella’r briffordd i’r Siop Lidl newydd. Bydd lonydd yn cau bob yn ail yn unig.
Bydd y lôn tua'r gogledd ar gau am 3 wythnos, Yna bydd y lôn tua'r de ar gau am 3 wythnos. Ni fydd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ar yr un pryd ar unrhyw adeg yn ystod y gwaith.
Bydd traffig yn gallu defnyddio St Davids Road, a pan fydd un lôn ar gau bydd y lôn i'r cyfeiriad arall ar agor, ond mi fydd gwyriadau.
Llwybr A: I'w ddefnyddio gan gerbydau HGV a cherbydau mwy: Edlogan Way, Somerset Road, Station Road, Avondale Road ac fel arall.
Llwybr B: I'w ddefnyddio gan bob traffig arall: Edlogan Way, Afon Terrace, Station Road, Avondale Way ac fel arall.
Bydd mynediad i’r gwasanaethau brys bob amser cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, a bydd mynediad i gerddwyr.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch hte.correspondence@torfaen.gov.uk