Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Hydref 2024
Yr Wythnos Ailgylchu hon, rydyn ni’n cefnogi cenhadaeth aruthrol Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd Rhif 1 yn y byd ar gyfer ailgylchu, ac mae angen eich help CHI arnom i gyrraedd y nod!
Mae Cymru eisoes ar gynnydd - yn ddiweddar wedi dringo o'r trydydd i'r ail safle, ychydig y tu ôl i Awstria. Ond gallwn wneud hyd yn oed yn well, yn enwedig o ran mynd i'r afael â gwastraff bwyd.
Gwnewch addewid i wneud eich rhan i helpu i gael Cymru i'r lle gorau a gallech fod â siawns o ennill gwyliau neu antur Gymreig aruthrol!
Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod nad yw bwyd byth yn perthyn yn y sbwriel, y gwir amdani yw bod chwarter bin gwastraff cyffredinol y cartref yn dal i fod yn wastraff bwyd. Mae hynny'n ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn. Ac yn syfrdanol, gallai 80% o'r bwyd hwn fod wedi cael ei fwyta, gan gostio £89 y mis i'r cartref 4 person ar gyfartaledd.
Achub bwyd o'r sbwriel yw'r prif gamau y gallwn eu cymryd i gael Cymru i Rif 1. Dilynwch yr awgrymiadau syml hyn i ddarganfod beth allwch chi ei wneud yna cymerwch yr addewid i ennill gwobrau. Byddwch hefyd yn arbed amser ac arian i chi'ch hun, tra'n helpu i greu ynni adnewyddadwy. Mae'n fuddugoliaeth ddwbl!
1. Byddwch yn greadigol gyda'r bwyd sydd gennych ar ôl
Weithiau mae bywyd yn tarfu ar draws ein cynlluniau, ac mae'n rhaid i ni addasu gyda'r bwyd sydd gennym wrth law i osgoi iddo fynd i wastraff. Edrychwch arno fel her hwyliog! Defnyddiwch y darnau olaf yn eich oergell i wella eich prydau bwyd yn gyflym ac yn greadigol. I gael syniadau, ewch i wefan Cymru yn Ailgylchu
2. Os na allwch ei fwyta, ailgylchwch ef
Peidiwch ag anghofio y darnau anfwytadwy hynny - fel crwyn banana, plisgyn wyau, a gweddillion coffi - y dylid eu hailgylchu bob amser. Oherwydd pan gaiff ei ailgylchu, caiff gwastraff bwyd ei droi'n ynni adnewyddadwy.
Yma yng Nghymru mae bron pob awdurdod lleol yn ailgylchu gwastraff bwyd yn ynni glanach a gwyrddach, ac yn 2023, fe wnaethom ailgylchu digon i bweru dros 10,000 o gartrefi! Gallwch hefyd ailgylchu gwastraff bwyd pan fyddwch chi allan.
3. Cymerwch yr addewid i achub eich bwyd o'r sbwriel ac ENNILL
P’un a ydych gartref, neu allan, mae’n bryd bod yn graff gyda gwastraff bwyd. Gwnewch addewid i helpu Cymru i gyrraedd Rhif 1, a gallech ennill gwyliau bythgofiadwy i chwech yng Ngwesty’r Garreg Las neu fynediad am ddim i atyniadau gorau Cymru fel Folly Farm, Zip World, Plantasia, Royal Mint Experience, Welsh Mountain Zoo, neu Barc Teulu Greenwood!
Ewch draw i Cymru yn Ailgylchu i gystadlu.
Ymunwch â Chyngor Torfaen i helpu Cymru i gyrraedd rhif un yn y byd!
Darganfyddwch beth y gellir ei ailgylchu yn Nhorfaen