Wedi ei bostio ar Dydd Iau 17 Hydref 2024
Mae grŵp cymunedol sy’n cefnogi cyn-filwyr wedi helpu uno cyn-filwr a’i fedalau.
Gwasanaethodd Marcus Walden, 92 oed, yn y Llynges Frenhinol yn ystod Argyfwng Suez yn 1956 ond ni wnaeth gais byth am ei fedalau am wasanaeth ac ymgyrch Argyfwng Suez.
Soniodd Marcus am hyn ar ôl i aelodau Hwb Cefnogaeth Cyn-filwyr Cwmbrân gynnig ei helpu yn ei ardd, gan ei fod yn cael trafferth cadw trefn arni.
Penderfynodd y Capten Stephen Smith a swyddog cymunedau sy’n deall oedran y cyngor, Zoe Gibbs, sy’n cefnogi’r grŵp, helpu, a gwnaethant gais am y medalau, a ddanfonwyd at Marcus y mis diwethaf.
Mae Marcus yn bwriadu eu gwisgo â balchder yn y Gwasanaeth Coffa, yng nghanol tref Pont-y-pŵl, ddydd Sul, Tachwedd 10.
Dywedodd Marcus, o Gwmbrân: “Mae’r Capten Smith a Zoe wedi bod mor gymwynasgar. Unwaith y daeth y Capten Smith i wybod am y medalau, fe gwblhaodd y ffurflenni, a’r peth nesaf a ddigwyddodd oedd bod y medalau wedi cyrraedd trwy’r post. Roedd yn wych.
"Rwy’n mwynhau mynd i'r hwb, ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Mae’n dda gallu cyfarfod â phobl o’r lluoedd arfog i siarad am ein profiadau, dysgu pethau newydd a mwynhau."
Mae Hwb Cefnogi Cyn-filwyr Cwmbrân yn cwrdd yng Nghanolfan y Fyddin, Tŷ Coch Way, Cwmbrân, rhwng 10am-11am, pob Dydd Mercher.
Yn ystod yr haf, helpodd pum aelod o’r grŵp i glirio gardd Marcus a gosod graean, y cyfan wedi ei dalu amdano gan yr hwb.
Dywedodd y Capten Smith, o Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy (Byddin Sirol): "Mae pawb yma’n gofalu am ei gilydd. Os nad yw rhywun yma un wythnos, er enghraifft, bydd rhai o’r grŵp yn galw heibio i weld a ydyn nhw’n iawn.
"Rydym yn cael pobl a mudiadau’n dod yn aml i siarad â’r grŵp am bethau ymarferol, fel pa fudd-daliadau y gallan nhw eu cael, Iechyd Meddwl a phethau felly. Felly, i lawer, mae’r hwb yn cynnig mynediad iddyn nhw at wybodaeth a chefnogaeth na fyddan nhw’n gallu eu cael yn rhwydd yn unman arall.
"Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Chyngor Torfaen i gael arian, sy’n ein galluogi i barhau â’r gwaith yma a chefnogi mwy o gyn-filwyr."
Bydd y gwasanaethau Sul y Cofio canlynol ar ddydd Sul, 10 Tachwedd:
10.30am Gwasanaeth Coffa yn Eglwys y Santes Fair, Y Dafarn Newydd
10.30am Gosod Torchau a gwasanaeth wrth y senotaff, Pontnewydd
10.50am Gwasanaeth Coffa, Parc Cwmbrân
11am Gosod Torchau a gwasanaeth wrth y senotaff,, Blaenafon
11.45 Gwasanaeth Coffa a seremoni gosod torchau wrth y Gatiau Coffa, Pont-y-pŵl