Ailgylchu yn y bagiau coch

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Hydref 2024
Red Bag 5 CYM

Mae bagiau ailgylchu coch newydd ar gyfer plastig, tuniau, caniau a chartonau yn cael eu dosbarthu i aelwydydd.

O ddiwedd Hydref ymlaen a thrwy gydol Tachwedd, bydd pob aelwyd yn cael sach newydd, taflen yn esbonio beth i’w roi yn y sach newydd, a chanllaw i wasanaeth llawn y cyngor ar gyfer ailgylchu wrth ymyl y ffordd.

Gofynnir i chi ddechrau defnyddio'ch bag coch newydd cyn gynted ag y byddwch yn ei gael.

Bydd angen i chi ddefnyddio eich blychau ailgylchu du o hyd ar gyfer gwydr, yn ogystal â phapur, batris y cartref a thecstilau mewn bagiau ar wahân.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae'r bagiau coch newydd yn haws eu cario a’u storio, ac yn gallu dal mwy na'r blychau du. 

"Byddant hefyd yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth casglu, a gobeithiwn y byddant yn annog pobl i ailgylchu mwy. Byddant hefyd yn lleihau'r risg o halogi, a fydd yn helpu i Godi'r Gyfradd trwy sicrhau bod cymaint o ddeunydd â phosibl yn cael ei ailgylchu.

"Dechreuwch ddefnyddio'ch bag coch cyn gynted ag y byddwch yn ei gael, a'i roi allan ar eich diwrnod casglu nesaf gyda’ch blwch ailgylchu du, bag cardfwrdd glas, a chadi gwastraff bwyd brown.

Yn 2023, dywedodd 87% o'r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg Codi'r Gyfradd y byddent yn barod i wahanu eu deunydd i’w ailgylchu. 

Bydd cloriau gyda sêl Velcro ar y bagiau newydd, fel y bagiau cardfwrdd glas, a bydd hyn yn lleihau nifer yr eitemau sy’n cael eu chwythu gan y gwynt gan achosi sbwriel. Ni fydd angen i chi ddefnyddio rhwydi ar eich blychau du mwyach.

Gallwch naill ai gadw unrhyw focsys du sbâr, eu rhoi i gymydog neu fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Am ragor o wybodaeth am y bagiau ailgylchu newydd, ewch i www.torfaen.gov.uk/ailgylchu

Diwygiwyd Diwethaf: 17/10/2024 Nôl i’r Brig