Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Hydref 2024
Wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn, mae Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn dathlu 130 mlynedd o fod yn galon i’r dref.
Mae'r garreg filltir hon yn nodi dros ganrif o hanes cyfoethog ac ysbryd cymunedol, ac mae llawer o drigolion lleol yn cofio’n annwyl am awyrgylch byrlymus y farchnad a'i rôl fel canolbwynt y siopa wythnosol.
Ond, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig yn dilyn pandemig COVID-19, mae arferion siopa wedi esblygu, gan arwain at ddirywiad yn y marchnadoedd traddodiadol a chanol trefi.
Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, rydyn ni’n adolygu'r cynllun busnes ar gyfer Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ac mae angen eich barn, eich syniadau a'ch adborth chi arnon ni, i oleuo’r cynllun busnes newydd.
Ein nod yw datblygu cynigion newydd a fydd yn sicrhau bod y farchnad yn parhau i fod yn rhan fywiog ac annatod o'r dref a'i chymuned.
Rydyn ni eisiau gwybod a ydych chi'n defnyddio'r farchnad dan do, ar gyfer beth rydych chi'n ei defnyddio, a beth fyddai’n ychwanegiad da, yn eich barn chi, i gynyddu nifer yr ymwelwyr.
Gallwch ddweud hyn wrthym trwy gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein trwy fynd i Dweud Eich Dweud Torfaen neu fynd i un o'r sesiynau galw-heibio canlynol:
- Dydd Mercher 23 Hydref, rhwng 10am a 2pm.
- Dydd Mercher 6 Tachwedd, rhwng 10am a 2pm
Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor o hanner dydd ddydd Mawrth 15 Hydref hyd nes hanner dydd ddydd Gwener 15 Tachwedd, 2024.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl wedi bod yn gonglfaen i'n cymuned ers 130 mlynedd.
"Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, rydyn ni wedi ymrwymo i adfywio'r farchnad a'i gwneud yn gyrchfan ffyniannus unwaith eto.
"Rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan yn ein harolwg a rhannu eu barn am sut y gallwn wella'r sefydliad lleol annwyl hwn."
Un o amcanion llesiant Cynllun Sirol y Cyngor yw gwneud Torfaen yn lle gwych i wneud busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol ac annog busnesau newydd a gweithgarwch entrepreneuraidd.
Rhagor o wybodaeth am Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl