Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Hydref 2024
Datganiad am gau Cartref Preswyl Arthur Jenkins gan y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai
Mae'r Cyngor wedi bod yn ceisio dod o hyd i ganlyniad cadarnhaol ar gyfer dyfodol Cartref Gofal Preswyl Arthur Jenkins ym Mlaenafon ers y cyhoeddiad ym mis Medi y byddai'r cartref yn cau. Rydyn ni’n deall yn llwyr fod penderfyniad Hafod i gau'r cartref wedi achosi gofid i’r preswylwyr a’u perthnasau ac wedi achosi pryder i staff sy'n gweithio yn y cartref a chymuned Blaenafon. Rydym wedi ymestyn y cynnig o gymorth gan ein tîm cyflogadwyedd i unrhyw staff sydd mewn perygl o gael eu diswyddo.
Dros yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cefnogi Hafod gyda'u trafodaethau gyda darparwyr eraill posibl. Rydyn ni hefyd wedi bod yn archwilio’r sefyllfa i weld a ellid ymestyn y cyfnod rhybudd yn ddiogel ac mewn ffordd sy’n cynnal gwasanaeth diogel yn y cartref dros yr wythnosau nesaf. Yn anffodus, wrth i amser fynd rhagddo, mae bellach wedi dod yn amlwg i Hafod a'r Cyngor y byddai ymestyn y cyfnod rhybudd yn cael effaith bellach ar lesiant preswylwyr. Yn sgil hyn, mae Hafod wedi penderfynu bwrw ymlaen i gau’r cartref ac i beidio ag ymestyn y cyfnod rhybudd y tu hwnt i'r dyddiad presennol ddechrau Rhagfyr.
Ffocws y Cyngor yw sicrhau bod y bobl sy'n byw yn y cartref yn cael cymorth i ddod o hyd i lety arall cyn gynted â phosibl, er mwyn amddiffyn eu llesiant a'u cadw’n ddiogel. Bydd staff o dîmau gofal cymdeithasol oedolion y Cyngor yn gweithio gyda phreswylwyr a'u teuluoedd i ddod o hyd i lety arall, ac mae yna gynlluniau gofal yn eu lle i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel.
Mae hon yn sefyllfa emosiynol a heriol iawn ac mae’r Cyngor yn cydnabod ei bod yn cael effaith aruthrol ar y gymuned gyfan ym Mlaenafon. Bydd gofyn i'r Cyngor ystyried dyfodol yr adeilad unwaith y bydd Hafod wedi gadael, a bydd yn gwneud hynny ar adeg briodol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae ffocws y Cyngor yn dal i fod ar ddarparu gofal a chefnogaeth ar gyfer y preswylwyr a'u teuluoedd.