Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Hydref 2024
Mae cynlluniau ar droed ar gyfer Strategaeth Bwyd Torfaen i gynyddu’r bwyd cynaliadwy sydd ar gael yn y fwrdeistref.
Bydd y strategaeth yn cynnwys ffocws ar fwyta’n iach, atebion tymor hir i dlodi bwyd a chefnogaeth i fusnesau lleol arallgyfeirio a lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd.
Mae ymgynghoriad yn digwydd nawr i ganfod beth hoffai busnesau lleol, grwpiau cymunedol a thrigolion weld yn cael ei gynnws.
Gallwch gymryd rhan trwy fynd at dweudeichdweud.torfaen.gov.uk, neu ewch i un o’r sesiynau galw heibio canlynol:
Dydd Sadwrn 19 Hydref, Marchnad Cwmbrân, 10am-2pm
Dydd Mawrth 22 Hydref, Siop Torfaen yn Gweithio, Cwmbrân, 10am-2pm
Dydd Sadwrn 26 Hydref, Marchnad Pont-y-pŵl,10am-2pm
Dydd Llun 28 Hydref, Clwb Cyfansoddiadol Blaenafon,10am – 2pm
Dydd Sadwrn 9 Tachwedd, Neuadd Gweithwyr Blaenafon, 10am-2pm
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Ilun 11 Tachwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: “Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth bwyd cynaliadwy sy’n wir adlewyrchu anghenion a dyheadau ein cymuned.
“Mae eich adborth yn amhrisiadwy wrth ein helpu i greu cynllun sy’n hyrwyddo bwyta’n iach, yn cefnogi busnesau bwyd lleol, ac yn lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu a bwyta bwyd.
“Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau fod pawb yn Nhorfaen yn gallu cael bwyd fforddiadwy, maethlon, gan feithrin economi fwyd cynaliadwy ar yr un pryd.”
Mae’r strategaeth yn cael ei datblygu gan Bartneriaeth Bwyd Torfaen sy’n cynnwys Cyngor Torfaen, Cymdeithas Wirfoddol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Tai Bron Afon, Tasty Not Wasty, Ymddiriedolaeth Trussell, FairShare Cymru a Sero Gwastraff Torfaen. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
Yn Awst, cafodd y bartneriaeth wobr arian gan raglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy’r DU, sy’n cydnabod ardaloedd sy’n gyrru arloesi ac arfer gorau ym mhob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.