Cronfa cymorth cymunedol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10 Hydref 2024
CCYP skills exchange group

Mae dros hanner miliwn o bunnau wedi'i roi i grwpiau cymunedol i'w helpu i ddatblygu a chefnogi mwy o bobl yn eu hardaloedd lleol.

Sefydlwyd Cronfa Cydnerthedd Cymunedol Torfaen ym mis Hydref 2023 i roi grantiau i grwpiau cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector a mentrau'r trydydd sector i ariannu mentrau tymor byr a thymor hir.

Ers hynny, rhoddwyd 85 grant gweithgaredd cymunedol a grant datblygu cymunedol gwerth cyfanswm o £651,820.

Mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân wedi cael grant datblygu cymunedol gwerth £33,000 i ddatblygu prosiect rhannu sgiliau sy’n pontio’r cenedlaethau, i ddod â gwirfoddolwyr lleol a phobl ifanc at ei gilydd i gyfnewid sgiliau.

Un o'r gwirfoddolwyr yw Phui-ling Parker o Gwmbrân, sy’n 66 oed ac sydd wedi bod yn cynnal sesiynau coginio yn y Ganolfan.

Meddai Phui-ling: "Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn fawr iawn hyd yma ac mae wedi rhoi pwrpas a chyfle i mi addysgu eto. Roeddwn i'n colli fy ngwaith addysgu ers i mi adael Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn 2013.

"Mae addysgu yn rhoi llawer o foddhad i mi wrth i mi weld sut mae'r dysgwyr yn dod yn eu blaen ac yn aeddfedu gydag amser. Fy nod yw eu gweld yn dod o hyd i’w lle arbennig nhw mewn bywyd."

Meddai Ellie, sy’n 23 oed: "Mae'r sesiynau wedi addysgu sylfeini sut i goginio prydau iach i fi, ac rydw i wedi eu mwynhau. Rydw i hefyd wedi mwynhau cynllunio yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud."

Mae’r grant hefyd wedi ariannu system wresogi newydd ar gyfer y Ganolfan.

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae ein cymunedau'n darparu ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau sy'n hanfodol i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu.

"Mae ein model gweithredu newydd sy’n seiliedig ar gymunedau, yn ceisio cefnogi’r gwaith gwych y mae'r grwpiau a'r mentrau cymdeithasol hyn yn ei wneud, ac adeiladu arno, gyda chymorth ein tîm Creu Cymunedau Cryf a Chronfa Cydnerthedd Cymunedol Torfaen."

Dros yr haf, gwahoddwyd amrywiaeth o fentrau'r trydydd sector i geisio am grantiau o hyd at £50,000 i ddatblygu model cynaliadwyedd. Mae'r ffenestr bellach wedi cau, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod cyn hir.

Mae Cronfa Cydnerthedd Cymunedol Torfaen yn cefnogi gwaith tîm Creu Cymunedau Cryf y Cyngor, sy'n gweithio gyda hybiau cymunedol a grwpiau i ddod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer prosiect sgiliau sy’n pontio’r cenedlaethau Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, anfonwch neges trwy e-bost i  leila.long@ccyp.org.uk

Mae Cronfa Cydnerthedd Cymunedol Torfaen yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r tîm Creu Cymunedau Cryf yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/10/2024 Nôl i’r Brig