Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10 Hydref 2024
Mae cyfleuster newydd gwerth £500,000 i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol wedi agor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân heddiw.
Bydd y ganolfan yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ac adnoddau ar gyfer hyd at 40 o blant ym mlynyddoedd 7 i 11, sydd ar y sbectrwm awtistig ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Sefydlwyd y Ganolfan ASD yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân 20 mlynedd yn ôl i gefnogi pobl ifanc ag Awtistiaeth i ddilyn y cwricwlwm prif ffrwd.
Mae'r cyfleuster, sydd wedi'i adnewyddu'n llwyr, nawr yn cynnwys un ystafell addysgu fawr a dwy ystafell addysgu lai, ystafell sgiliau bywyd pwrpasol, ystafell synhwyraidd a gardd synhwyraidd - a fydd yn cael ei chwblhau yn nes ymlaen.
Dywedodd Pennaeth y Ganolfan ASD a sylfaen â nam ar y clyw, Caroline Payne: "Rydyn ni’n ffodus iawn o gael y cyfleuster newydd hwn i allu diwallu anghenion y myfyrwyr. Bydd yn ein helpu i ddatblygu'r cwricwlwm i gynnwys ymgysylltu yn y gymuned. Rydyn ni’n gyffrous iawn ynghylch y cyfnod newydd hwn a'r cyfleoedd y bydd yn eu cynnig."
Meddai Archie Thompson, myfyriwr yn y Ganolfan ASD: "Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael llawer mwy o le ar gyfer gweithgareddau, a gallu treulio mwy o amser gyda ffrindiau, yn dysgu ac yn cael hwyl."
Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys cegin newydd a man eistedd dan do ac awyr agored, a bydd ar gael i'w logi gan y gymuned gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Bydd hyn yn cynnwys digwyddiadau cymdeithasol a drefnir gan y gymuned leol, o brosiectau rhandiroedd a phrosiectau gwella’r ysgol, i gyfleoedd dysgu i oedolion a boreau coffi.
Bydd gwasanaethau fel Cyngor ar Bopeth yno bob wythnos hefyd, i gynnig cymorth a chyngor ariannol i deuluoedd os oes angen.
Meddai’r Swyddog Cyswllt Teuluoedd, Kathryn Ayling: "Rydw i mor gyffrous i rannu'r ddarpariaeth newydd hon gyda'r gymuned ehangach. Bydd hwn yn fan diogel newydd i bobl ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol. Gobeithio y bydd hyn yn cryfhau ac yn datblygu perthnasoedd gyda'u teulu a'n hysgol."
Meddai Pennaeth Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Matt Sims: "Rwy'n falch iawn o weld y ddarpariaeth newydd hon yn ein hysgol. Rhoddwyd yr arian i alluogi’r ysgol i estyn allan i'r gymuned leol a darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau i gefnogi teuluoedd lleol, gyda'r nod o feithrin perthnasoedd hirhoedlog."
"Bydd y cwricwlwm sy'n cael ei addysgu yn y ganolfan ASD yn ymdrin â phob agwedd ar y 'Cwricwlwm i Gymru', gyda ffocws mawr ar gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y lle newydd hwn yn helpu pob un o'n disgyblion i ddatblygu yn eu lle a'u hamser eu hunain gyda chymorth ein staff, a byddwn yn llunio'r cwricwlwm o amgylch anghenion y disgyblion."