Gofalwyr maeth Torfaen yn rhannu'r hyn maen nhw'n gallu'i gynnig

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 9 Hydref 2024
Ashleigh foster carer

Mae gofalwyr maeth o Dorfaen wedi bod yn siarad am eu profiadau o ofalu am bobl ifanc.

Mae yna tua 160 o ofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn y Fwrdeistref yn gofalu am tua 215 o bobl ifanc, gan gynnwys y rheiny sydd wedi'u cymeradwyo i faethu aelodau o'r teulu.

Eleni, nod ymgyrch Gall Pawb Gynnig Rhywbeth gan Faethu Cymru yw dangos bod maethu plant hŷn neu blant sydd ag anghenion ychwanegol yn gallu bod yn brofiad mor werth chweil.

Daeth Ashleigh, o Flaenafon, yn ofalwr maeth yn 2018. Mae wedi darparu lleoliadau tymor byr, seibiant, a lleoliadau tymor hirach ar gyfer plant, gan gynnwys pobl ifanc yn eu harddegau.

Mae hi wedi rhannu ei phrofiadau mewn cyfres o fideos gan Maethu Cymru Torfaen.

Meddai Ashleigh: "Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn llawn hwyl - unwaith fyddwch chi'n chwalu'r rhwystrau sydd ganddyn nhw!  Rwy'n gweld eu bod nhw’n gallu rhoi mwy o hyblygrwydd i chi gan eu bod nhw’n fwy annibynnol. Maen nhw eisiau oedolyn dibynadwy y gallant ymddiried ynddo, nid ffigwr 'rhiant', cartref diogel y gallant ddod yn ôl iddo a llawer o fwyd sydd ar gael yn rhwydd!"

Mae Sharon a Steve, o Bont-y-pŵl, yn arbenigo ar faethu plant ag anableddau ac anawsterau dysgu.

Meddai Sharon: "Mae meithrin perthynas dda gyda'r tîm o amgylch y plentyn, gan gynnwys addysg ac iechyd, yn hanfodol wrth ofalu am blentyn ag anableddau.  Allwn ni ddim ffeindio bai ar y gefnogaeth gawson ni gan yr awdurdod lleol."

"Trefn, hefyd, yw'r peth pwysicaf er mwyn cynnal ein swyddi ochr yn ochr â maethu.  Mae trefn yn gwneud bywyd yn haws i bawb ac yn sicrhau cysondeb gofal i'r plentyn. Mae mor werthfawr gweld y newidiadau yn y plentyn wrth i amser fynd yn ei flaen."

Amcangyfrifir bod angen 20 i 30 o aelwydydd gofal maeth eraill yn Nhorfaen, i helpu i gadw plant yn eu cymuned leol ac yn agos at eu teuluoedd, ffrindiau, ysgolion a rhwydweithiau cymorth lleol.

Meddai Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen: "Nod ymgyrch Maethu Cymru yw tynnu sylw at y ffaith y bydd gan y mwyafrif helaeth o unigolion a theuluoedd rywbeth i'w gynnig i blentyn mewn angen.

"Mae amynedd, sgiliau cyfathrebu da, chwilfrydedd, synnwyr digrifwch, a'r gallu i addasu yn rhai o'r nodweddion sy'n gwneud gofalwyr maeth gwych."

Bydd yr ymgyrch Gall Pawb Gynnig Rhywbeth yn rhedeg trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Torfaen.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth ar gyfer yr awdurdod lleol, ewch i fosterwales.torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 766669
Diwygiwyd Diwethaf: 09/10/2024 Nôl i’r Brig