Wedi ei bostio ar Dydd Llun 7 Hydref 2024
Datganiad gan y Cynghorydd Richard Clark - Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg
Mae'n drist iawn gennym glywed bod ein Pennaeth yn Ysgol Gynradd Pontnewydd, Kerry Waters, sydd wedi gwasanaethu am gyfnod hir, wedi marw.
Mae pob un ohonom yn drist iawn i glywed am y drasiedi hon. Mae Mr Waters wedi bod yn Bennaeth uchel ei barch ers 16 mlynedd ac roedd pawb yn meddwl y byd ohono. Mae wedi bod yn rhan o wead cymuned ein hysgol a bydd colled fawr ar ei ôl.
Bydd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a'r Gwasanaeth Cwnsela Mewn Ysgolion yn yr ysgol dros y diwrnodau a'r wythnosau nesaf i gynnig cefnogaeth i staff a phlant.
Ar ran y Cyngor, rydyn ni’n cydymdeimlo'n ddiffuant â'i deulu, ei gydweithwyr a'r disgyblion yn Ysgol Gynradd Pontnewydd a phawb a oedd yn ei adnabod.