Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 2 Hydref 2024
Mae sawl ysgol gynradd wedi lleihau eu gwastraff bwyd draean ar gyfartaledd, diolch i gystadleuaeth gan wasanaeth arlwyo'r Cyngor.
Cymerodd pedair-ar-ddeg o ysgolion ran yng nghystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff - gan dorri eu gwastraff bwyd 33% ar gyfartaledd - 13% yn fwy na'r llynedd.
Fe fu’r disgyblion yn monitro ac yn cofnodi faint o fwyd a oedd yn cael ei daflu i ffwrdd amser cinio ac yn cynllunio ymgyrch i gael eu cyd-ddisgyblion i daflu llai i ffwrdd.
Roedd yr enillwyr yn ddisgyblion o Ysgol Gymraeg Cwmbrân, a lwyddodd i leihau eu gwastraff bwyd 36 y cant ar y cyfan.
Cawsant eu llongyfarch am gynnal gwasanaeth boreol i gael yr ysgol gyfan i gefnogi’r ymgyrch – gan gynnwys ci'r ysgol!
Daeth Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, ym Mhont-y-pŵl, yn ail. Roedd y ffordd y siaradodd y disgyblion â phob dosbarth am sut y gellir compostio gwastraff bwyd wedi creu argraff ar y beirniaid.
Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Hoffwn longyfarch Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, a diolch i'r holl ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.
"Mae dysgu am leihau gwastraff bwyd mor ifanc, mor bwysig. Gall helpu plant i ddeall o ble mae eu bwyd yn dod, datblygu mwy o werthfawrogiad o natur, a dewis bwydydd iachach. Gall hefyd helpu i leihau gwastraff bwyd mewn cartrefi, ac mae hyn yn gallu helpu'r blaned ac arbed arian.
"Mae'r plant wedi bod yn eiriolwyr gwych dros ddefnyddio'r cadi gwastraff bwyd brown yn yr ysgol, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymddygiad hwn yn parhau gartref.
"Peidiwch ag anghofio y dylai unrhyw fwyd na ellir ei fwyta, na'i ddefnyddio fel bwyd-dros-ben, fynd i’r cadi gwastraff bwyd i'w ailgylchu. Helpwch ni i godi'r gyfradd trwy ailgylchu gwastraff bwyd."
Enillodd y ddwy ysgol ddiwrnod cyfan o sesiwn goginio iach, diolch i gyllid gan bartneriaeth Food4Growth Torfaen. Talodd y grŵp hefyd am gloriannau i bob ysgol a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.
Cafodd y gystadleuaeth ei beirniadu' gan yr eco-entrepreneur lleol Lauren Morse, perchennog siop Zero Waste Torfaen, yng Nghwmbrân.
Lansiwyd cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff y llynedd fel ffordd o wneud y gwasanaeth prydau ysgol yn fwy cynaliadwy. Dyma ragor o wybodaeth am yr hyn y mae'r gwasanaeth arlwyo yn ei wneud i leihau allyriadau carbon.