Rhwydwaith newydd cymorth galar

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Hydref 2024
Untitled design (16)

Mae rhwydwaith newydd cymorth galar wedi ei sefydlu, diolch i ddull newydd o weithredu gan Gyngor Torfaen.

Clywodd tîm Creu Cymunedau Cydnerth y cyngor am gynlluniau gan Eglwys Bedyddwyr Richmond Road, Cwmbrân, i sefydlu grŵp cymorth galar yn gynharach eleni.

Roedd y tîm yn gwybod bod grŵp arall wedi ei sefydlu’n ddiweddar yng Nghapel Bethlehem, Blaenafon, ac roedd yna grŵp ar wahân yn cwrdd yn Eglwys Bedyddwyr Merchant's Hill, Pontnewynydd.

Daeth Kate Noyes a Sophie Griffiths, o'r tîm Creu Cymunedau Cydnerth, â’r tri grŵp at ei gilydd, ynghyd ag Eglwys Gymunedol Dwy Loc, Cwmbrân, a oedd hefyd yn ystyried cynnig cymorth galar.

Cynigiodd y tîm dalu am 10 gwirfoddolwr i gymryd rhan mewn hyfforddiant galar gyda Cruise ac roedd y grŵp cyfunol yn llwyddiannus gyda chais am grant gweithgaredd bach i’r grwpiau, fel argraffu, celf a chrefft a blychau cof.

Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni fabwysiadu Strategaeth Cymunedau tair blynedd o hyd i gefnogi grwpiau sy’n cynnig cyfleoedd lles yn eu cymunedau, ac i helpu eu cysylltu nhw ag unigolion sydd angen cymorth. 

"Mae’r Grŵp Galar yn enghraifft wych o sut y gwelodd grwpiau gwahanol yr un angen yn eu cymunedau a, thrwy weithio gyda’i gilydd, maen nhw wedi cael hyd i ateb cynaliadwy, gwydn a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o bobl."  

Dywedodd Gemma Buckle, gweithiwr cymunedol o Eglwys Richmond Road: "Mae’r gefnogaeth gan Kate a Sophie wedi gweithio’n dda dros ben.  Byddem ni ddim yn gwybod am y grwpiau eraill fel arall a ddim wedi meddwl am wneud cais am arian. 

"Mae cefnogaeth y tîm Creu Cymunedau Cydnerth wedi gostwng o ryw flwyddyn yr amser y byddai wedi cymryd i ni sefydlu ein grŵp ein hunain."

Dywedodd Sue Driscoll, ysgrifennydd Capel Bethlehem, Blaenafon: "Sefydlais i Glwb Good Grief ar ôl marwolaeth fy ngŵr, Kevin, llynedd.  Roeddwn i’n gwybod am y grŵp ym Mhontnewynydd ond nid y lleill.

"Mae cael y grŵp cyfunol yn golygu ein bod ni’n gallu cefnogi ein gilydd a rhannu syniadau. Mae’n golygu hefyd fod gan bobl ddewisiadau gwahanol ynghylch y grwpiau y gallan nhw fynd iddynt.

"Mae profiad pob un o alar yn wahanol a dyw e ddim yn dod i ben pan fo’r pethau cyntaf ar ben.  Rydym ni am helpu pobl i brofi galar fel rhywbeth cadarnhaol."

Yn ogystal â rhoi cefnogaeth barhaus a hyrwyddo, mae’r tîm Creu Cymunedau Cydnerth yn trefnu i’r grwpiau gael hyfforddiant ychwanegol mewn galar ar ôl hunanladdiad a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd newydd brofi galar, neu’r rheiny sy’n wynebu colli rhywun annwyl.

Mae’r grwpiau Cyfunol Galar yn cwrdd ar y diwrnodau canlynol:

  • Good Grief Club, Capel Bethlehem, Blaenafon, pob dydd Mercher olaf y mis, rhwng 10am-12pm a 6pm-8pm
  • Grŵp Cymorth Galar, Eglwys Bedyddwyr Merchant's Hill, Pontnewynydd, pob 2il a 4ydd Dydd Mercher, 10am-12pm
  • Bereavement Friends, Eglwys Bedyddwyr Richmond Road, Pontnewydd, Dydd Mawrth 1af y mis, 10am-11am
  • Cwnsela a Chymorth Galar 1:1, Eglwys Gymunedol Dwy Loc, Cwmbrân, pob Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener, 10am-12pm.

Dysgwch beth sy’n digwydd yn eich ardal leol ar wefan Cysylltu Torfaen: https://connecttorfaen.org.uk/

Mae’r tîm Creu Cymunedau Cydnerth yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

(Llun Ch-D: Sophie Griffiths, Sue Driscoll, Gemma Buckle, Kate Noyes)

Diwygiwyd Diwethaf: 15/10/2024 Nôl i’r Brig